Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau Stori SAM. E. Tegla Davies. Hughes a'i Fab, Wrecsam. 2/6. Pan ysgrifennodd Dr. T. Gwynn Jones y byddai'n rhaid darllen y llyfr hwn drachefn, "efallai, fwy nag unwaith, cyn i gyfrinach y Ci Drycin a'i Ddafad Wyllt, y Ffynnon Oer, a hithau'r Ffordd Gam, ddechrau tywyn- nu ar ei feddwl," yn sicr fe ddywedodd y gwir. Gwaith cymharol hawdd yw amgyffred ystyr gyffredinol yr alegori. Stori ydyw, mi dybiaf, am weledig- aeth a gafodd llanc ieuanc, a'i ymgais i'w dilyn a'i deall: yna daw siom am na all adennill yr ysbrydoliaeth a chadw safon aruchel ei ddelfrydau newydd. Ond y mae'n ddigon posibl fod y cynnig hwn at ddehongli'r stori yn gwbl anghywir. Sylwais nad oes yr un adolygiad, o'r rhai y digwyddais eu darllen, wedi mentro cynnig esboniad ar yr alegori. Ac ni ellir eu beio. Oblegid y mae ffansi Mr. Davies yn boenus o ddyrys, ac y mae darllen y llyfr hwn yn waith caled i'r deall, fel pôs geiriau croes go anhydrin. Y mae'n demtasiwn gofyn faint o'r ffansi sy'n gyfreithlon a pha faint sy'n gwbl anghyfaddas, oblegid rhaid cyfrif aneglurder yn wendid. Mae pob alegori lwyddiannus yn syml ac yn hawdd ei deall-Taíth y Pererin, er enghraifft, a damhegion y Testament Newydd. Amcan y "ffansi" yw argraffu'r gwirionedd ar feddwl y darllenydd, nid ei guddio mewn niwl, pa mor brydferth bynnag y bo. Mae'n ddyletswydd arnaf gyfaddef yn onest na ddeellais ergyd y llyfr hwn yn iawn ar ôl ei ddarllen ddwywaith, ac fe ellir, bid siwr, fy nghollfarnu os mynner, am geisio'i adolygu a'i feirniadu. Fy amddiffyniad yw fod llawer o'm cyfeillion a gynysgaeddwyd â meddyliau mwy treiddgar na myfi wedi eu digalonni'n lân gan "Stori Sam." Wedi dweud hynny, mae'n rhaid cyfaddef hefyd fod y stori, ar wahân i'w hystyr gudd gyfriniol, yn stori dda, hynod ddarllenadwy, sy'n gafael ynoch o'r dechrau cyntaf. Mae yma ddisgrifio gwych a chynnil ar olygfeydd a chymeriadau cystal â dim a gafwyd gan Mr. Davies erioed; ac y mae hynny'n ddweud go fawr. Ac ni ellir canmol gormod ar yr iaith a'r arddull. Cymraeg syml, arddull gadarn a rhywiog, sy'n eich cario ymlaen yn esmwyth a llyfn, fel lli afon, hyd ddiwedd y llyfr. Mae'n bleser darllen rhyddiaith Mr. Davies bob amser; mae mor gartrefol ac ar yr un pryd, oherwydd hynny, efallai, mor urddasol. Dyma enghraifft arall o waith Mr. Davies sy'n dangos bod ei ddawn yn ymgyfoethogi, a byddai'n werth darllen "Stori Sam" am yr iaith yn unig. Camgymeriad, gyda llaw, oedd cynnwys y darlun echrydus o'r Boi Sgowt yn chwarae mwgwd yr ieir yn yr entrych. ALUN Llywelyn-Williams. "MERCH Y Llwyndy." Comedi Dair Act. Gan G. Prys Jones. Gwasg Gee. Pris, 2/6. Pair y ddrama hon i'r darllenydd drosi yn ei feddwl y diffiniadau o'r gair "comedi" a ddysgodd; yna, o dderbyn y diffiniad ehangaf, yn rwgnachlyd fe