Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Y FERCH o Gefn YDFA." Gan Rhys Davies. Troswyd i'r Gymraeg gan T. J. Williams-Hughes. Gwasg y Brython, Lerpwl. 2/6. Trosiad i'r Gymraeg o gyfaddasiad gan Rhys Davies o'r stori gyffrous am y ferch o Gefn Ydfa ydyw'r ddrama hon. Peth hyfryd fyddai cael drama Gym- raeg am gariadon. Dyma theme a rydd gyfle i'r iaith fod ar ei gorau-yn cario'r cariadon drwy eu munudau hapus a thrist,trwy orfoledd ac anobaith, a phob munud cynhyrfus arall. Tybed a oes y fath gyfle yn y stori hon? Yn sicr y mae'r elfennau ynddi. Mam uchelgeisiol a chreulon, ond eto yn caru ei merch yn angerddol. Gellid yn gyntaf, ysgrifennu melodrama,-y stori yn bwysicaf, a'r bobl yn ddim ond delwau yn nwylo'r awdur, yn cael eu cipio yma a thraw heb un rheswm ond gofal yr awdur am ei stori. Neu, gellid ysgrifennu tragedi, lle byddai'r cymeriadau yn bobl fyw a chofiadwy, yn ddiddorol inni am yr hyn sydd "ynddyn 'nhw." Hynny yw, llunio'r cymeriadau yn fanwl-CCrichly drawn," fel dywed y Saeson, fel ein bod yn eu hadnabod ac yn eu deall, a gadael i'r stori dyfu yn naturiol o adnoddau y cymeriadau arbennig hyn. Nid oes digon yn y stori hon, fel y byddid yn ei chyflwyno ar lwyfan, i ddal diddordeb diball y gynulleidfa. Nid yw'n llwyddo fel melodrama oherwydd nid oes digon yn digwydd ynddi. Ymddengys y stori braidd yn dila; y mae "gormod o ddweud a dim digon o wneud." Nid yw'n llwyddo fel tragedi oherwydd nid yw'r cymeriadau wedi eu llunio'n ddigon eglur; y mae rhyw gyffredinedd yn eu hymadrodd nad yw'n datguddio dim inni. Byddai'n gamp llunio cymeriad mor gymhleth â Chatherine ThQmas-ac y mae'n rhaid ei bod yn gymhleth: y mae'n greulon, ac eto mae'n caru ei merch yn fawr. Yn sicr, nid yw'n ddigon iddi ddweud, "'Row'n i yn ei charu." I gredu yn y ddrama hon fel tragedi y mae'n rhaid inni gredu yn Catherine Thomas. Ond nid yw'n symud fel creadur byw. Gellid dweud yr un peth am Mr. Maddocks, cymeriad pwysig yn y trosedd yn erbyn Ann, a chymeriad sy'n gofyn gofal arbennig gan yr awdur. Ann a Rebecca yw'r cymeriadau sydd wedi eu llunio orau yn y ddrama, ac y mae i'r olaf ryw ddylanwad tywyll drwy'r stori. Awgrymir yn gynnar yn y ddrama fod Mrs. Thomas ei hun mewn cariad â Mr. Maddocks, a chan na fedr hithau ei briodi, y mae'n ymdrechu am y peth gorau posibl yn ei golwg hi-i Ann ei briodi. Nid yw Maddocks yn gwybod hyn, ac edrychwn ymlaen yn naturiol at olygfa fawr rhwng Mrs. Thomas a Maddocks pan ddaw hyn i olau dydd. Ond nid oes y fath olygfa. Y mae Ann yn cyhuddo ei mam o'r cariad hwn— ac ym mhresenoldeb Maddocks- ond ni ddaw dim ohono, ac mae'r edau honno ar goll. Credaf hefyd y dylai'r awdur daflu rhyw olau inni ar sut y dylai Sali chwarae ei golygfa gyntaf â Wil pan fo'n caru ag ef. A yw hi o ddifrif? Ynteu, a yw hi'n ysmalio? Os ydyw o ddifrif, y mae'n anodd credu ei pharodrwydd sydyn i helpu carwriaeth Wil ag Ann.