Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar ôl dweud y cyfan oll y mae'n deg cyfaddef bod "munudau mawrion" yn y ddrama hon, yn arbennig yn y golygfeydd y mae â wnelo Ann â hwy yn uniongyrchol. Os chwaraeir y ddrama hon â "hwyl" — a chredaf mai fel hynny y dylid ei chynhyrchu-y mae'n sicr o beri noson o ddifyrrwch peni- gamp i gynulleidfa o Gymry. LEYSHON WILLIAMS. "ANTURIAETHAU Gwas Y Wern." Gan Joseph Jenkins. Gwasg y Brython. i/- a 9c Llyfryn i blant yw "Anturiaethau Gwas y Wern." Flynyddoedd cyn i'r llen godi ar yr olygfa gyntaf, rhedodd bachgen ifanc bant o'i fro enedigol, ac ni chlywyd na siw na miw amdano byth wedyn hyd nes iddo ddod yn ôí ar ryw noson oer yn y gaeaf, ac o flaen tanllwyth braf yn nhŷ ei nai, Elis, edrydd hanes ei fywyd wrtho. Wedi disgrifio'r amser caled a gafodd fel gwas bach ar fferm y Ffrwd, cawn glywed sut y dihangodd tua Merthyr a chael gwaith ar y glo yno. Ni ddywed fawr o ddim am ei arhosiad ym Merthyr ar wahân i ddisgrifiad manwl o gwymp dan y ddaear. Yn wir, y mae'r manylder yn rhy erchyll i blant, yn enwedig pan ddarlunia'r llygod yn bwyta corff marw ei gydweithiwr. Nid aeth byth yn ðl i'r gwaith glo wedyn, a chyn pen fawr o amser y mae ar y cefnfor a'i fryd ar wneud elw ym meysydd aur Awstralia. Try oddi wrth ei stori ei hun ac edrydd rai o brofiadau un o'i gydforwyr. Gyda'i fod yn gorffen y rhain cawn ef yn carlamu ar draws Awstralia ar gefn march llamsachus a llawddryll wrth ei ystlys. Erbyn hyn yr ydym yn barod i weld y gwreichion yn tasgu, ac, yn wir, fe'u cawn hefyd ymysg dyhirod y meysydd aur. Sôn am Tom Mix! Nid yw ond megis corach wrth ochr Gwas y Wern. Y mae crotsach heddiw yn hen gyfarwydd â thriciau arwyr ffilmiau'r Gorllewin Gwyllt, ac ofnaf y bydd i ambell un ohonynt ddarllen am orchestion Gwas y Wern yn Awstralia â'i dafod yn ei foch. Y mae i'r llyfr bedwar o luniau da gan Mitford Davies, er bod hwnnw o'r talcen glo wedi'r cwymp yn od dros ben-gweld popeth yn eglur fel y dydd mewn tywyllwch fel y fagddu Dyma achos arall i lawer mam ddweud eto: "Dod yr hen lyfr yna o dy law a dere i gael bwyd." Rhaid diolch i Mr. Jenkins am gymwynas arall â phlant Cymru. ISAAC Davibs. "YR HOGYN PREN, neu HELYNTION Pinocio" (sef "Awenture di Pinocchio") wedi ei drosi o'r Eidaleg gan E. T. Griffiths, M.A., L. ès L. Gwasg Gee. 2/6. Dyma ddywed y cyfieithydd mewn rhagair:—"Pe cesglid at ei gilydd y copîau a werthwyd o'r nofel hon yn yr Eidal, ceffid digon i roi copi yn llaw pob tad a mam a phlentyn yng Nghymru a gadael miloedd yn weddill. Nid oes blentyn yn yr Eidal nad yw Pinocio yn gyfaill calon iddo."