Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diolch yn fawr i Mr. E. T. Griffiths am roi cyfle i blant Cymru hefyd ddod i adnabod Pinocio. Mae rhai yn barod wedi gwneud cyfaill ohono. Gan mai stori i blant yw "Yr Hogyn Pren," plant hefyd fydd yn ei feirniadu. Felly darllenais y stori drwyddi i ddau blentyn, ac yn wir, derbyniwyd Pinocio ar unwaith i fysg Cinderella, Aladdin, Alice, Winnie the Pooh, Mickey Mouse, a'r anfarwolion eraill sydd yn llunio'r byd dychmygol hwnnw y mae plentyn yn byw ynddo. Unwaith y bo plentyn wedi derbyn cymeriad yn gyfaill iddo, nid yw'n blino ar ei hanes. Mae yn hoffi clywed un stori ar ôl y llall amdano. Hyd yn oed o'r safbwynt yna yn unig fe fydd plant wrth eu bodd yn darllen "Yr Hogyn Pren." Mae'n hawdd gwneud cyfaill o Pinocio-yn un peth mae'n hogyn drwgl A phwy ohonom sydd heb lecyn cynnes yn ein calon tuag at hogyn drwg? Mae plant yn enwedig yn hoffi hogyn drwg,-mewn stori, beth bynnag,-rhai yn teimlo yn dosturiol tuag ato, ac eraill yn eu dychmygu eu hunain yn ei Ie, yn gwneud y pethau yr hoffent hwy eu gwneud, onibai am y gosb. Meddyliwch am Binocio yn cychwyn am yr ysgol, ond yn chwarae triwant, ac yn waeth na hynny, yn gwerthu ei lyfr A B C i gael pres i fynd i'r siou; ac yno yn gweld Pwnsh a Jiwdi am y tro cyntaf, ac yn goron ar y cwbl, Pwnsh ei hun yn cydnabod Pinocio fel brawd, ac yn galw arno i ddod i fyny i'r llwyfan! A beth am ei daith i wlad y teg- anau? Bechgyn yn unig oedd trigolion y wlad honno-bechgyn. rhwng wyth a phedair ar ddeg oed. Gwlad heb ysgol oedd hi; dim ond chwarae a difyrrwch a geid yno. Wedi aros yno am bum mis, trodd Pinocio yn asyn, ond beth arall oedd i'w ddisgwyl ynte? Mae Pinocio mewn rhyw drybini byth a beunydd-yn cael ei demtio gan lwynog a chath, yn cyfarfod â lladron pen ffordd, yn cael pedwar mis o gar- char, ac yn y blaen. Ond i wneuthur iawn am yr helyntion hyn y mae'n cyfarfod â'r Dywysoges â'r Gwallt Glas, yn dal y lladron, ac yn achub ei dad o berfeddion y morgi. Dyna ddigon o ddigwyddiadau i ddiddori unrhyw blentyn, ac mae'r stori wedi ei hysgrifennu yn syml ac yn fyw, ac yn berffaith rhwydd i'w darllen. Mae geirfa yn y llyfr hefyd. Ar y diwedd mae Pinocio yn cael tröedigaeth, ac yn dod yn fachgen iawn; ac wedi'r cwbl, beth sydd yn well na hynny-cael bod yn blentyn mewn gwirionedd, ac nid yn hogyn pren? MYFANWY HOWELL.