Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'A GAFODD CYMRU CHWAREU TEG?' CYFRIFIAD 1891 A'R IAITH GYMRAEG* GERAINT H. JENKINS Hyfrydwch o'r mwyaf oedd derbyn gwahoddiad i draddodi darlith gyhoeddus sy'n gysylltiedig ag enw prif noddwr a sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Pan ddechreuais dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl ymchwilio i lenyddiaeth grefyddol Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, ni allwn beidio â rhyfeddu at y trysorau prin a geid yng nghasgliad Syr John Williams, a bob tro y cerddaf heibio i gofgolofn y Llywydd cyntaf yn yr Ystafell Ddarllen byddaf yn diolch am y weledigaeth a'i hysbardunodd i sicrhau mai yn Aberystwyth y lleolid y Llyfrgell odidog hon. Hoffwn ddal ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r Llyfrgellydd presennol a'i staff am y gefnogaeth ddi-feth a roddwyd ac a roddir i mi yn bersonol ac i'm staff o ymchwilwyr yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Canrif liwgar, fyrlymus a thra diddorol oedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru, yn enwedig 0 safbwynt hanesydd sy'n ymddiddori yn y gair printiedig a hynt a helynt yr iaith Gymraeg. Y mae'n ddiau mai un o bennaf orchestion *Darlith Syr John Williams a draddodwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 22 Mai 1998.