Skip navigation

Y Llyfr yng Nghymru

 - 

Rhif 2 1999

'A gafodd Cymru chwareu teg? ' : Cyfrifiad 1891 a'r iaith Gymraeg /

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
'A GAFODD
CYMRU CHWAREU TEG?'
CYFRIFIAD 1891 A'R IAITH
GYMRAEG*
GERAINT H. JENKINS
Hyfrydwch o'r mwyaf oedd derbyn gwahoddiad i draddodi
darlith gyhoeddus sy'n gysylltiedig ag enw prif noddwr a
sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Pan ddechreuais
dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl ymchwilio i
lenyddiaeth grefyddol Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg a'r
ddeunawfed ganrif, ni allwn beidio â rhyfeddu at y trysorau
prin a geid yng nghasgliad Syr John Williams, a bob tro y
cerddaf heibio i gofgolofn y Llywydd cyntaf yn yr Ystafell
Ddarllen byddaf yn diolch am y weledigaeth a'i hysbardunodd
i sicrhau mai yn Aberystwyth y lleolid y Llyfrgell odidog hon.
Hoffwn ddal ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r Llyfrgellydd
presennol a'i staff am y gefnogaeth ddi-feth a roddwyd ac a
roddir i mi yn bersonol ac i'm staff o ymchwilwyr yng
Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol
Cymru.
Canrif liwgar, fyrlymus a thra diddorol oedd y bedwaredd
ganrif ar bymtheg yng Nghymru, yn enwedig 0 safbwynt
hanesydd sy'n ymddiddori yn y gair printiedig a hynt a helynt
yr iaith Gymraeg. Y mae'n ddiau mai un o bennaf orchestion
*Darlith Syr John Williams a draddodwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 22 Mai
1998.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.