Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y ganrif oedd cyhoeddi Y Gwyddoniadur Cymreig mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879, a phan gyhoeddwyd ail argraffiad ohono ym 1891 dywedwyd mewn cofnod ar yr iaith Gymraeg gan un o'r cyfranwyr, sef John Morris Jones: 'Y mae mwy yn ei siarad nag a fu erioed; ac ar gyfer ei siaradwyr y mae mwy o ddarllen arni, fe allai, nag ar unrhyw iaith. Cyhoeddir ynddi gylchgrawn chwarterol, a dau ddeufisol; tua phymtheg o gylchgronau misol; a deunaw neu ugain o bapurau wythnosol.'1 Er mai darlithydd ifanc 27 oed yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, oedd John Morris Jones y pryd hwnnw, gwyddai cystal â neb fod oes Victoria wedi cynhyrchu yng Nghymru doreth ryfeddol o lyfrau, newyddiaduron, cylchgronau, barddoniaeth, pregethau, esboniadau diwinyddol a chasgliadau o gerddoriaeth amrywiol. Trwy gyfrwng y wasg Gymraeg manteisiwyd ar y cyfle i greu barn gyhoeddus oleuedig ac i hyrwyddo buddiannau diwylliannol a gwleidyddol Cymru. 'Hir oes iddi! meddai John Morris Jones am y Gymraeg, ac y mae'n briodol ei fod wedi gwneud hynny ym 1891, sef y flwyddyn pan gynhaliwyd cyfrifiad poblogaeth unigryw yng Nghymru. Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf erioed i geisio casglu gwybodaeth ynglyn â'r niferoedd a oedd yn siarad Cymraeg.3 Cynhaliwyd y cyfrifiad ar ddydd Sul, 5 Ebrill, ym mhob sir yng Nghymru. Paratowyd dwy ffurflen y naill yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg ar gyfer Cymru, yn cynnwys colofn yn dwyn y pennawd 'Yr iaith a leferir', a disgwylid i unigolion ysgrifennu 'English' os oeddynt yn ddi-Gymraeg, 'Cymraeg' os oeddynt yn ddi-Saesneg, ac 'Y Ddwy' neu 'Both' os oeddynt yn medru Saesneg a Chymraeg. Ni wyddys yn union paham y penderfynodd y llywodraeth geisio cywain gwybodaeth am heniaith Cymru, ond y mae lle cryf i gredu mai ar hap a damwain y digwyddwyd cynnwys cwestiwn ynglýn â'r Gymraeg. Yn ddigymell cododd W. A. MacDonald, AS Gwyddelig dros Queen's County, ar ei draed yn Nhy'r