Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN GWENOGFRYN EVANS: EI GYMHELLION A'R DYLANWADAU FU ARNO D. HYWEL E. ROBERTS Er mai ychydig iawn 0 sylw a gafodd Gwenogfryn Evans ers ei farw, ac er fod y cof amdano yn amlach na pheidio yn gysylltiedig â'r ffrae chwerw a chyhoeddus fu rhyngddo a John Morris-Jones ac eraill, ar fater ei gyfieithiadau a'i ddehongliadau 0 Lyfr Taliesin, mae i Gwenogfryn le pwysig iawn yn hanes y llyfr yng Nghymru. Gellid dadlau iddo wneud cyfraniadau sylweddol a sylfaenol mewn sawl cyfeiriad bu'n gopïwr llawysgrifau gofalus a thra medrus, lluniodd a golygodd destunau safonol yn seiliedig ar ei waith copïo a chynhyrchodd destunau na bu modd nac angen gwella fawr iawn arnynt yn y cyfamser. Bu hefyd yn lluniwr catalogau manwl 0 gynnwys lliaws o lawysgrifau Cymreig creiddiol tra oeddent yn dal mewn casgliadau a llyfrgelloedd preifat. Bu'n gynllunydd, yn gysodwr ac yn argraffydd llyfrau arbennig o gain, a bu'n lladmerydd yn y maes cyhoeddi addysgiadol ac ysgolheigaidd. Yn ddiweddarach yn ei yrfa bu'n trefnu yn y dirgel, fel petai, i'r prif gasgliadau o lawysgrifau Cymreig gael eu casglu i'w gosod ynghyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru pan sefydlwyd hi. Rhwng popeth gwnaeth gyfraniad aruthrol, yn arbennig o ystyried iddo gyflawni llawer o'r gwaith mewn amgylchiadau digon anodd. Eto, digon cyndyn fu ysgolheictod Cymru i gydnabod hynny. Mae'n arwyddocaol na chafodd ei gynnwys ymhlith yr ysgolheigion Cymraeg a restrir yn Liyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg, a chryno a