Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dweud y lleiaf, yw'r cofnodion amdano yn Y Bywgraffiadur Cymreig1 a'r Dictionary of National Biography.2 Bwriodd helynt ei waith ar Lyfr Taliesin gysgod dros farn a gwerthfawrogiad Cymru ohono yn sicr, ond mae'n rhan 0 baradocs bywyd a gwaith Gwenogfryn iddo gael ei glodfori a'i anrhydeddu am ei waith ar un cyfnod yn ei yrfa, yna'i feirniadu'n hallt a'i ddiystyru wedi hynny. Wrth geisio pwyso a mesur ei gyfraniad i hanes y llyfr yng Nghymru cyfyd rhai cwestiynau sylfaenol. Beth a barodd i weinidog gyda'r Undodiaid yn Lloegr ddechrau ymddiddori ym maes llenyddiaeth Gymraeg y llawysgrifau? Sut y datblygodd ei alluoedd i'r graddau fod ei gyfoeswyr yn cydnabod mai ef oedd prif arbenigwr y maes, er nad oedd ganddo'r cefndir na'r addysg gydnabyddedig? Paham y cynlluniodd raglen gyhoeddi mor uchelgeisiol? Paham a sut yr aeth ati i ddysgu crefft argraffu, a sut y bu iddo osod safonau mor uchel yn yr agwedd honno ar ei waith? Paham yr aeth yn rhan o gynllun tra uchelgeisiol i lunio catalogau cywir a manwl i'r holl lawysgrifau Cymreig? Paham y bu iddo ymestyn ei waith i feysydd dehongli testunau nad oedd yn gymwys i ymhél â nhw? Paham y bu iddo ennyn beirniadaeth mor chwyrn oddi wrth rai fu'n gyfeillion agos ac yn gydweithwyr edmygus am gyfnod maith? Ni ellir cynnig ateb i bob un o'r cwestiynau hynny nac i rai eraill lawn cyn bwysiced, yn arbennig mewn astudiaeth fer, ond gellir cynnig rhai ffeithiau a damcaniaethau a allai fwrw peth goleuni ar yrfa Gwenogfryn Evans. Y dylanwad mwyaf ffurfiannol ar ei yrfa yn ddi-os oedd natur a helbulon ei fywyd personol ei gefndir, ei afiechyd, a'i fywyd teuluol. Cymhellion cwbl ymarferol, a chyni, a arweiniodd Gwenogfryn i faes llenyddiaeth a'r llyfr Cymraeg. Mae hanes ei fachgendod cyffredin yn hysbys3 addysg elfennol, gweithio mewn siop gyda'i ewythr, cyfnodau 0 salwch dwys, yna dychwelyd yn ei lencyndod i fyd addysg yng Nghaerfyrddin a Phont-siân, cyn mynd yn efrydydd i