Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BLWYDDYN DARLLEN GENEDLAETHOL CYMRU ADOLWG 2000 RHIANNON LLOYD Yn ystod y flwyddyn 1998-99, cynhaliwyd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol drwy wledydd Prydain. Blaengaredd gan y llywodraeth i geisio codi ymwybyddiaeth pobl o bwysigrwydd darllen ac i hyrwyddo safonau uwch mewn llythrennedd oedd hwn. Maentumir bod tua 15% o boblogaeth Cymru a Lloegr yn meddu ar sgiliau llythrennedd cyfyngedig iawn, ond mae'n bur debyg fod y canran nad yw'n darllen yn hyderus, yn eang nac yn rheolaidd yn llawer uwch na hynny. Dengys ystadegau addysgol yn glir bod llawer o fechgyn yn tangyflawni o'u cymharu â merched o'r un oed, yn enwedig mewn ieithoedd. Mae adroddiadau ar sail ymchwil ddiweddar yn clymu'r tangyflawniad hwn yn dynn wrth y ffaith fod bechgyn, at ei gilydd, yn darllen llawer llai na merched yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn sgil clustnodi'r flwyddyn yn Flwyddyn Darllen, penodwyd cydlynwyr cenedlaethol yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru i ymgymryd â'r gwaith o hyrwyddo darllen ymysg plant, pobl ifanc ac oedolion. Cefais innau, ar secondiad o'r Arolygiaeth am flwyddyn, y fraint o gydlynu'r gweithgareddau darllen a llythrennedd yng Nghymru, ac o gydweithio â staff Cyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth. Cafwyd cefnogaeth gadarn gan Adran Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r fenter. Ar ddechrau'r Flwyddyn, dewiswyd aelodau'r Pwyllgor Llywio a chytunwyd ar y nodau a'r targedau canlynol: · codi proffil darllen yng Nghymru a sicrhau sylw cyson gan y cyfryngau i ddigwyddiadau a gweithgareddau. Gosodwyd