Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyhoeddid yn flynyddol yn Unol Daleithiau'r America, ac maent yn gyfran o 2.5% o gynnyrch blynyddol gweisg Lloegr. Yn yr Eidal mae tua 26% o'r llyfrau a gyhoeddir yn flynyddol yn gyfaddasiadau, yn arbennig o lyfrau yn yr iaith Saesneg.2 Ystyrir cyhoeddi gweithiau gorau ieithoedd a diwylliannau eraill yn gryfder ac yn waith tra phwysig gan y rhelyw o weisg, a gall y gwahanol ddiffiniadau o'r gair 'gorau' olygu'r cynnwys, y diwyg, yr awdur neu hyd yn oed y wasg. Ers degawdau bu Cymru yn cyhoeddi rhai o glasuron llenyddiaeth y byd wedi'u cyfaddasu a'u cyhoeddi yn y Gymraeg gyda chefnogaeth gwahanol gynlluniau Cyngor Celfyddydau Cymru, ac ni fyddai neb yn gwarafun hynny mae'n debyg. Mae rhai, megis Meic Stephens, yn dadlau nad oes digon o weithiau Cymraeg yn cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill er mwyn arddangos ein cyfoeth, ond gwir asgwrn y gynnen yng Nghymru ym marn nifer o sylwebyddion yw fod ein gweisg a'r fasnach lyfrau yn gyffredinol bellach yn or-ddibynnol ar gyfaddasiadau, yn arbennig ar gyfaddasiadau o lyfrau Saesneg, a hynny ar draul gweithiau gwreiddiol yn y Gymraeg. Daw yn amlwg o fwrw golwg ar hysbysebion, ar gatalogau, ac ar restrau a llyfryddiaethau, fod cyfaddasiadau yn gyfran sylweddol iawn o'r hyn a gyhoeddir yn y Gymraeg bellach. Ond a yw sylweddol yn golygu 'gormod' o reidrwydd? Pa bryd y mae cyfran yn troi'n gyfran rhy sylweddol ac yn troi'n ormod? Ai mater ystadegol ydyw neu a yw'n fater o ddarganfod effaith andwyol ar brosesau cyhoeddi yn y Gymraeg, o'r creu hyd at gyfannu'r ddolen olaf gyda'r darllenydd? Ystyriaethau felly oedd wrth wraidd yr hyn a sbardunodd ein hastudiaeth a'n hymchwil. Un o ddyletswyddau ymchwil, mae'n siwr, yw ymbellhau oddi wrth wres uniongyrchol unrhyw ddadl, ac ymroi i gasglu a gwyntyllu tystiolaeth yn ymwneud â gwahanol agweddau arni mewn dulliau mor ddiduedd a gwyddonol ag y bo modd. Mae i'r testun hwn ei amryfal agweddau yn y cyd-destun Cymreig ac y mae'n fater sydd hefyd yn medru cynhyrfu teimladau ac esgor ar farn gref. Hyd y gwyddys, nid aeth neb ati hyd yma i fesur yn fanwl y cynnyrch yn y cyfnod diweddar fel y gellir darganfod a yw'r cyfaddasiadau fel cyfran o'r holl waith