Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyhoeddi ar gynnydd. Neu ai argraff o gynnydd a geir gan fod nifer y cyhoeddiadau yn y Gymraeg yn gyffredinol wedi codi'n sylweddol dros y degawdau diwethaf? Os yw'r gyfran yn uwch mewn gwirionedd, beth sydd i gyfrif am hynny? Yn bwysicach, efallai, pwy sy'n gyfrifol am y cynnydd ein cyrff cyhoeddus a'u polisïau a'u dylanwad, a'r modd y dosberthir ac yr anelir y grantiau i gynnal cyhoeddi ganddynt? Ai'r gweisg eu hunain a'u cynlluniau cyhoeddi a'r amgylchiadau celyd y maent yn gorfod gweithio o'u mewn sy'n gyfrifol? Efallai mai ar y farchnad y mae'r bai, ac ar y galw o du'r darllenwyr. Ar yr awduron y mae'r bai efallai, neu ar brinder awduron a fedrai gynhyrchu llif o weithiau gwreiddiol ar bob testun dan haul yn y Gymraeg. Efallai mai ar gyfuniad o'r ffactorau hyn y mae'r bai. Ceisiodd yr ymchwil fwrw golwg ar y ffactorau hyn i gyd yn eu tro, a cheisio nid yn unig fesur y tueddiadau a'r dylanwadau ond eu hesbonio hefyd. Digon o fewn erthygl fer yw nodi rhai o blith y prif ddarganfyddiadau a'r casgliadau mwyaf trawiadol. Afraid dweud mai sefyllfa gymhleth, aml-ochrog a ddarganfuwyd, sefyllfa y gellir ei thadogi'n bennaf i sefyllfa leiafrifol yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, ac i brinder adnoddau digonol i gynnal diwydiant cyhoeddi naturiol-hyfyw. Man cychwyn yr ymchwil yn naturiol ddigon oedd ceisio creu cronfa ddata fyddai'n cofnodi pob addasiad a gyhoeddwyd yn y Gymraeg o fewn cyfnod yr ymchwil. Gan i'r Cyngor Llyfrau Cymraeg gael ei sefydlu ym 1962 mabwysiadwyd 1965 fel man cychwyn, am i'r Cyngor gael ei draed tano erbyn hynny a datblygu'i weithgaredd, a'r bwriad oedd olrhain y dasg hyd at 1995 am resymau cwbl ymarferol yn ymwneud â chyflawnder rhestrau y cyhoeddiadau a'r llyfryddiaethau. Bu'r dasg o gasglu'r data am yr holl addasiadau a gyhoeddwyd o fewn y blynyddoedd hynny yn un ddyrys, yn bennaf gan nad oedd un ffynhonnell lyfryddol gynhwysfawr a hwylus yn cwmpasu'r cyfnod. Dyna rybudd i ymchwilwyr y dyfodol. Rhaid oedd cyfeirio at amrywiol ffynonellau, megis Dadansoddiad o Lyfrau Cymraeg 1972-1996, a gynhyrchwyd gan y Cyngor Llyfrau, Rhestrau Llyfrau Chwarterol a gyhoeddid yn Llais