Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PENNOD YN HANES CYHOEDDI LLYFRAU CYMRAEG RHWNG Y DDAU RYFEL BYD* BLEDDYN OWEN HUWS Pe bai rhywun yn mynd ati i ysgrifennu llyfr am hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn ystod y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd byddai'n rhaid neilltuo pennod i drafod dyhead y beirdd a'r llenorion gwlad am weld eu gwaith yn ymddangos mewn print. Ac yn y bennod honno byddai'n anodd iawn osgoi trafod cyfraniad Carneddog, sef Richard Griffith o Nanmor ger Beddgelert, fel awdur, golygydd a chyhoeddwr, oherwydd rhwng 1920 a 1930 bu'n gyfrifol am ddwyn drwy'r wasg chwe llyfr i gyd, gan gynnwys ei gasgliad swmpus o gerddi beirdd ei fro, Cerddi Eryri, ym 1927, a chasgliad o'i gerddi ei hun, O Greigiau'r Grug, ym 1930. Un peth yr oedd Carneddog yn awyddus i'w osgoi wrth fentro cyhoeddi ar ei draul ei hun oedd colli arian fel y gwnaeth wrth gyhoeddi Gwaith Glaslyn yn ystod blwyddyn gyntaf y Rhyfel Mawr. Gwers ddrud oedd honno nad oedd ar unrhyw gyfrif am weld ei hailadrodd. Ond am iddo ddysgu oddi wrth ei gamgymeriadau fe gafodd well hwyl ar gyhoeddi'r ddwy gyfrol a enwyd. Sicrhaodd ddigon o danysgrifwyr er mwyn argraffu Cerddi Eryri yn llyfr clawr caled 3 swllt a 6 cheiniog, ac fe dalodd o'i boced ei hun am argraffu O Greigiau'r Grug yn llyfryn clawr meddal a werthai am 18 ceiniog y copi.2 Hanes llwyddiant yw hanes ymdrech Carneddog. Ond byddai'n rhaid i'r bennod hefyd ymdrin â hanes methiant gan nad oedd pawb o bell, bell ffordd mor llwyddiannus â Carneddog yn eu hymwneud â'r byd cyhoeddi. Un o'r rheini a ymdrechodd yn ofer i weld ffrwyth ei awen rhwng dau glawr oedd Gwallter Llyfnwy, sef Walter Sylvanus Jones o Lanllyfni yn Nyffryn Nantlle, a oedd, fel y mae'n digwydd bod, yn gyfaill agos i