Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MONICA LEWINSKY A FI M. WYNN THOMAS Beth amser yn ôl, cyhoeddais erthygl yng ngholofn Gymraeg cylchgrawn newyddion Prifysgol Cymru, Abertawe, gan fabwysiadu ar ei chyfer y teitl a rois i'r ysgrif hon: 'Monica Lewinsky a fi.' Ac am y tro cyntaf, a'r tro olaf, yn hanes y cylchgrawn hwnnw, derbyniwyd sawl cais am gyfieithiad o'r erthygl i'r Saesneg gan ddarllenwyr nad oeddynt yn medru'r Gymraeg. Am beth, felly, oedd y darn yn sôn? Wel, cyfeirio yr oedd at neges e-bost a ddanfonwyd ataf gan un o'm cyn-fyfyrwyr a oedd bellach yn llunio sgriptiau ar gyfer byd y ffilmiau yn Hollywood. Ac yn y neges honno, fe holodd tybed a wyddwn fod fy enw newydd gael ei grybwyll yn y Los Angeles Timesì 'Wyddwn i ddim,' atebais i'n syn, ac felly ces esboniad ganddi o'r hyn a fu. Yn y cyfnod pan oedd sylw'r byd wedi ei hoelio ar berthynas Bill Clinton a Monica Lewinsky, datgelwyd yn y wasg fod yr Arlywydd, pan oedd yn ceisio denu sylw'r ferch ifanc, wedi cyflwyno anrheg arbennig iddi copi o gyfrol honedig anllad Walt Whitman, Leaves of Grass. O'r herwydd, fe ddechreuodd y cyfryngau ymddiddori yn hanes ac yng ngwaith y bardd mawr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chafwyd enghraifft dda o'r diddordeb hwnnw yn y rhifyn dan sylw o'r Los Angeles Times. 'Whitman Goes Global: rumour linking his work to the Clinton- Lewinsky story has scholars, reporters trying to read between the lines,' meddai'r penawdau bras, ac yn yr erthygl swmpus sy'n dilyn eir ati i sôn am y modd y mae enwogrwydd Whitman bellach wedi ymledu i bedwar ban byd.2 Sonnir yn benodol am y cyfieithiadau aneirif o'i gerddi i bob iaith dan haul, ac fel enghraifft o hyn cyfeirir at y gyfrol Dail Glaswellt a gyhoeddwyd gennyf i ym 1995.3 Ystyrier felly, am eiliad, y gweddau gwahanol iawn ar gyfieithu a amlygir yn y stori rwyf newydd ei chrynhoi. I ddechrau, ceir enghraifft yma o gyfathrebu sy'n ateb diben ('functional communication') gan mai am ddeall 'cynnwys' fy erthygl yn