Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AROLWG O HIRHOEDLEDD CYFNODOLION CYMRAEG MIRANDA MORTON Gwneud elw yw prif faen prawf llwyddiant cylchgrawn masnachol; diflannu yw hanes cylchgrawn Saesneg masnachol na wna elw digonol i'w gyhoeddwr. Er bod elw yn amcan wrth gyhoeddi cylchgronau Cymraeg, ymddengys fod eu cyhoeddwyr yn llai parod i gefnu ar fenter na wna lawer iawn o elw. Serch hynny, o fwrw golwg dros nifer ac oes cylchgronau Cymraeg dros amser, byrhoedlog fu'r rhan fwyaf ohonynt. O'r 150 o gyfnodolion Cymraeg a sefydlwyd rhwng 1735 a 1850, 27 a barhaodd am fwy na phum mlynedd, a 12 am dros 30 mlynedd (Ffigur 1). Hepgorir cylchgronau a barhaodd am lai na phum mlynedd. Cylchgronau crefyddol oeddent, gan amlaf; ymddangos am flwyddyn neu ddwy, wedyn darfod fu hanes y rhan fwyaf o'r cylchgronau o ddiddordeb cyffredinol yn y cyfnod. Erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd cylchgronau seciwlar gystadlu â'r cylchgronau crefyddol, a pharhau am gyfnodau hwy (Ffigur 2), yn adlewyrchiad o'r cynnydd yn y farchnad oherwydd llythrennedd cynyddol y Cymry Cymraeg a gwell dosbarthu. Ohonynt hwy oll, parhaodd 65 am dros bum mlynedd, a 32 am dros 30 mlynedd. Mae'n rhaid trin ystadegau'r cyfnod â gofaP ond ym 1886 cafwyd ffigurau cylchrediad o 120,000 i'r wythnosolion Cymraeg, a 150,000 i'r misolion Cymraeg;2 hynny yw, gwerthiant o 40,000 i'r wythnosolion a 50,000 i'r misolion. Roedd cylchrediad felly yn uwch na chylchrediad papurau Sul Saesneg poblogaidd y cyfnod.3 Nid oes dim syndod, felly, yr ystyrir y cyfnod 1855-1914 yn 'oes aur' cyhoeddi yn y Gymraeg. Erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, sefydlwyd trefn addysg Saesneg orfodol a rhwydwaith rheilffyrdd a hwylusodd ddosbarthu cylchgronau Saesneg. Cystadleuaeth fu hi â'r wasg Saesneg byth oddi ar hynny, ac aeth hirhoedledd cylchgronau Cymraeg newydd yn fyrrach trwy gydol yr ugeinfed ganrif, er i