Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYDIANT CYHOEDDI YNG NGHYMRU GWILYM HUWS Dros y pymtheng mlynedd diwethaf mae Cymru wedi profi newidiadau sylweddol iawn yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol, yn fasnachol, yn wleidyddol, yn addysgol ac yn dechnegol. Mae'n anodd dehongli arwyddocâd hyn i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru, gan mai cyfyng eu cwmpas fu'r ychydig astudiaethau a wnaed o'r maes ers cyhoeddi arolwg cynhwysfawr o'r diwydiant yn 1988.1 Hyn a ysgogodd Canolfan y Llyfr Aberystwyth i wahodd Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth i ailymweld â'r maes a astudiwyd ganddynt gyntaf yn eu harolwg yn 1986/7 ac a gyhoeddwyd yn adroddiad 1988. Am resymau pragmataidd fe rannwyd yr arolwg yn nifer o astudiaethau llai, un yn ymwneud â'r berthynas rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus a'r fasnach lyfrau, un yn ymwneud â rhai agweddau ar werthu llyfrau, ac un arall ag agweddau o'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn crynhoi rhai o brif ganfyddiadau a phrif argymhellion yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar y diwydiant cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg yng Nghymru.2 (Ers cwblhau'r arolwg y seiliwyd prif adrannau'r adroddiad arno bu datblygiadadu niferus ym maes nawdd ar gyfer cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Penllanw'r datblygiadau hyn oedd datganiad gan y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg yn Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, ym mis Ebrill 2002 yn nodi newidiadau pellgyrhaeddol i'r dull 0 noddi cyhoeddi. Ceir troednodiadau perthnasol mewn gwahanol rannau o'r erthygl yn cyfeirio at rai o'r newidiadau hyn.) Ymhlith prif amcanion yr astudiaeth yr oedd: Canfod y prif newidiadau a fu yn natur a chynnyrch y diwydiant cyhoeddi a'r newidiadau yn y gyfundrefn nawdd i'r diwydiant dros y deng mlynedd diwethaf.