Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU YMFUDWYR EIRIONEDD BASKERVILLE Dros y cenedlaethau byddai'r Cymry'n mynd i bedwar ban byd i chwilio am fywyd gwell am hinsawdd dirionach, am gyfleoedd amgenach, am fwy o ryddid crefyddol neu wleidyddol. Gwlad dlawd oedd Cymru yn economaidd, ac nid oedd yn hawdd ennill bywoliaeth trwy ffermio, ac roedd llanw a thrai yn y gweithfeydd haearn a dur a'r pyllau glo hefyd yn eu tro, heb sôn am broblem cau tir comin, a'r bygythiad i fywoliaeth gwehyddion cefn gwlad sir Drefaldwyn o du melinau mawr swydd Caerhirfryn. Does dim syndod bod miloedd o Gymry yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi cael eu denu gan y sôn am wledydd mawr, agored a thir rhydd yng ngogledd a de America, ac adlewyrchir eu rhesymau dros ymfudo a'u hymateb i'w gwlad fabwysiedig yn y llythyrau a anfonasant adref at eu teuluoedd a'u ffrindiau. Cipolwg sydyn yw hwn ar gynnwys rhai o'r llythyrau yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol a anfonwyd gan y Cymry a aeth i Ogledd America. Y cam cyntaf, wrth gwrs, oedd penderfynu ymfudo, ac roedd hwn yn gam mawr i'w gymryd. Fel y dywed Robert Charles Jones mewn llythyr at ei frawd Joseph Seth, 13 Ebrill 1865, oedd ar fin gadael am Batagonia: Ynghylch yr ymfudo y mae yn ddrychfeddwl pur ofidus i feddwl gadael yr Hen Fam Wlad, gadael gwlad y manteision mawr, gadael y wlad lle mae llwch ein tadau a'n mamau yn gorwedd, eto ni ddylai hyny o angenrheidrwydd ein rhwystro i fyned i wledydd tramor.l Byddai rhai yn cael eu dylanwadu gan anerchiadau pobl fel Benjamin Chidlaw, a ymfudodd yn blentyn ifanc i Ogledd America o'r Bala gyda'i rieni ym 1810. Aeth i'r weinidogaeth ac ym 1835 a 1839 dychwelodd i Gymru ar deithiau pregethu a drodd hefyd yn bropaganda dros ymfudo. Dylanwad Y Teithiwr Americanaidd: Neu Gyfanvyddyd i Symudwyr o Gymru i'rAmerica gan