Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Edward Jones, a aned ar fferm ger Aberystwyth, ac a ymfudodd i Cincinnati ym 1831, a fu'n rhannol gyfrifol am ddenu llu o bobl o ardal Mynydd Bach i America. Roedd eraill yn cael eu cymell i ymfudo gan aelodau o'r teulu neu fîfindiau a oedd eisoes wedi ymfudo, ac roedd nifer o hysbysebion yn ymddangos yn y papurau newydd am longau cyfleus i'w cludo i ben draw'r byd. Mae llythyr R. Gwesyn Jones, a ymddangosodd yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Tachwedd 1865, yn crisialu'r rhesymau dros ymfudo er mai sôn am ymfudo i Batagonia sydd yma: Y mae yn eithaf amlwg fod yn rhaid i lawer adael Cymru yn barhaus. Y mae y ffermwyr mewn llawer rhan o'r wlad mewn cyflwr gwasgedig iawn y rhenti wedi codi tuag un ran o dair, neu chwaneg, a heblaw hynny, y perchnogion yn cadw ysgyfarnogod, cwningod a phob math o bethau od eraill i ddifa cnwd y tir. Un o ddau beth amdani naill ai gwrthryfel penderfynol yn erbyn y fath orthrwm neu ynte gadael y ffermydd rhwng y pryfed a'u meistr a myned i geisio tiroedd yn y Gymru Orllewinol.Y mae Patagonia oll yn rhydd i'w gwneud yn Gymru newydd, ac y mae yn dda gennyf ddweud, ar dystiolaeth meddyg sydd wedi chwilio yn fanwl i'r mater, ei bod yn wlad iach iawn. Nid oes yno ddim twymynau na heintiau. Digon tebyg eu bod yn ddiogel yna rhag y ddarfodedigaeth. O leiaf mae yn gyfle ardderchog i ddyfod ymlaen yn y byd, a chyn hir bydd yno gartref mwy cysurus i Gymro nag un rhan arall o'r byd Yng Nghymru newydd y Gorllewin bydd y Cymry oll gyda'i gilydd, felly bydd ganddynt bob manteision crefyddol. Roedd rhaid ystyried agwedd a theimladau aelodau eraill o'r teulu a oedd yn dewis aros gartref. Fel mae John Rees yn cofnodi yn ei 'Memorandum Book' am y flwyddyn 1847:2 In the first part of this year my brothers Daniel & Benjamin and myself joined positively to emigrate into the United States of America by the commencement of next summer. Ond wedyn dywed: We persuaded Benjamin to stop at home for a year because my father was unwilling for us to leave him all at once, although Benjamin was very discontented to remain.