Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau. Nid oes yng Nghymru heddiw gylchgrawn llenyddol. Y mae cydnabod hynny, yn ein barn ni, yn gondemniad difrifol ar gyflwr ein llenyddiaeth. Mae'n wir bod ein bywyd llenyddol ar y funud yn ymddangos yn eithaf iach, yn iachach nag y bu ers blynyddoedd. O leiaf dyna'r casgliad anochel o ystyried cynnyrch y deuddeg mis diwethaf, deuddeg mis a welodd gyhoeddi "Gymerwch Chwi Sigaret," "Dail Pren," Pont y Caniedydd" a "Y Byw Sy'n Cysgu." Ond golwg unochrog a geir ar ein cyflwr llenyddol o sylwi'n unig ar y cyfrolau hyn, gweithiau llenorion cydnabydd- icdig bob un ohonynt. Oherwydd, i'n tyb ni, un o arwyddion diogelaf iechyd llenyddol unrhyw gymdeithas yw cyflwr ei chylch- gronau. Y cylchgrawn llenyddol, wedi'r cwbl, yw gwarant bywyd llenyddol iach heddiw ac amod anhcpgor unrhyw lenydda o wcrth yfory. Cyíeiriwyd uchcd at bedwar o'n llenorion cyfocs. Dysgasant hwy gerdded mewn cymdeithas lle'r oedd cylchgronau fel "Y Llenor," "Heddiw" a "Tir Newydd" yn ffynnu. Y cylchgrawn llenyddol yw llwyfan y genhedlaeth y sydd. Ef hefyd yw magwrfa'r genhedlaeth i ddod. Ein hargyhoeddi o bwysigrwydd hyn a barodd i ni bender- fynu cychwyn "Yr Arloeswr." Cylchgrawn cwbl lenyddol a arfaethwyd gennym yn gyntaf. Erys y pwyslais yn llenyddol, ond penderfynasom mai da fyddai cynnwys ynddo yn ogystal drafodaethau ar y celfyddydau cain eraill. Credwn bod angen llwyfan gymraeg i'w hystyried hwythau. Dyna amcan yr adran "Arolwg." Y tro hwn â'r ddrama, y ffilm ac arluniaeth yr ymdrinnir, ond bwriadwn mewn rhifynnau eraill gynnwys trafod- aethau ar gerddoriaeth a phensaerniaeth hefyd. Ar gyfer y genhedlaeth nad yw eto wedi llawn ennill ei thir ym myd llenyddiaeth y bwriadwn Yr Arloeswr" yn bennaf. Cylchgrawn iddynt hwy ydyw llwyfan i'w gwaith creadigol a chyfie i'w beirniadaeth. Credwn bod digon o ysgrifenwyr. Em dymuniad yw eu dwyn i'r amlwg. Ond ar yr un pryd byddwn