Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLWYFAN. 1. Y Nofelydd. DYDD Y NOFELAU BYCHAIN. Yn gyntaf oll, diolch am weld Yr Arloeswr. Rhwydd hynt iddo, a hir oes, a rhad y nef ar ei olygyddion. Y mae ystrydebau weithiau'n dweud gwir deimlad ein calon yn well na'n hymadrodd- ion medrus a llafurus ni. Dyna pam yr aethant yn ystrydebau. Gofynnodd y Golygyddion imi sgrifennu, os yn bosibl, ar y Nofel Gymraeg. Byddaf bob amser yn rhy barod i addo heb ystyried goblygiadau f'addewid. Ac addewais iddynt hwythau. Dechreuais ar ysgrif reit dda ar y pwnc, a rhoddais hi yn y fasged. Nid oeddwn wedi sgrifennu tri pharagraff na welais ar f'union nad beirniad llenyddol mohonof. A chan nad oes ond ychydig iawn wedi'i sgrifennu yn Gymraeg ar grefft Y Nofel, nid oedd gennyf fawr ddim i gytuno nac i anghytuno ag ef. Mwy na hynny, rhyw deimlo'r oeddwn nad oedd gennyf hawl i sgrifennu ar Y Nofel (â phriflythrennau), gan y gorfodir fi i gredu fwyfwy mai y nofel' (â llythrennau bychain) yw eithaf fy nghyraeddiadau i. Mae rhai o'm cyfeillion yn fy ngher- yddu am ryw siarad ymddiheurol fel hyn. Ond nid ymddiheuro'r ydwyf, a dweud y gwir. Y mae lle i'r 'pot-boiler' yn Gymraeg fel ym mhob iaith arall. Yn wir, y mae'i hangen hi yn Gymraeg, ac 'rwy'n ymgysuro wrth gredu y gall hithau hyd yn oed, drwy'r nawdd ryfedd sy dros y Gymraeg, helpu i achub ein hiaith. Os felly, mae'n rhaid cael rhywun i'w sgrifennu. Ac nid un, ond amryw. Hyn yn unig y carwn ei ddweud am Y Nofel. Pe gellid uno mewn un nofel ragoriaethau pob nofelydd Cymraeg a sgrif- ennodd yn ystod y ganrif hon-synnwyr plot un, synnwyr rhyddiaith un arall, synnwyr dioddefaint y trydydd, synnwyr celfyddyd y pedwerydd, synnwyr cenadwri a synnwyr digrifwch dau arall eto-fe geid y Nofel Fawr' y mae'r megalomania Cymreig yn cyson udo amdani. Fel y mae, llawer gwell yw ceisio sgrifennu nofel gyffredin a llwyddo na cheisio sgrifennu Nofel Fawr a methu. Ar fy mherygl, yr wyf am ddweud eto fod ar y Gymraeg angen dybryd am y nofel (ag 'n' fach) gyffredin, ddarllenadwy, ac mae'n cael llawer. rhy ychydig ohonynt. Yn yr iaith Saesneg heddiw y mae dau fath ar nofel fach (nid nofel fer, o anghenraid). Un yw'r nofel lenyddol, esoterig, od, sy'n gwerthu mil o gopïau