Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

farw. Os yw'n ddyn dwfn ei argoeddiadau, mae ganddo hawl i fynegi'i argoeddiadau, dim ond iddo ddeall nad yn ôl ei werth fel propaganda y bernir ei waith gan yr oesoedd a ddêl, ond yn ôl gwyched ne waeled y mynegodd ef ei bropaganda. A gaf fi, ynteu, wrth derfynu llith a aeth eisoes yn rhy faith, ofyn i'r dwsin neu well o nofelwyr posibl yng Nghymru beidio â bodloni ar fod yn nofelwyr posibl ? Byddwn ddiolchgar am y Nofel Fawr os daw, ond byddwn fwy diolchgar am ffrwd gyson o nofelau darllenadwy fydd yn gafael ac yn goglais, yn dwt eu stori ac yn lân eu crefft. Nid sothach chwaith. Ond y llenydd- iaeth gyffredin sy'n fara beunyddiol i bob cenedl nad yw'n dioddef gan fegalomania'r genedl daeog. BEDDARGRAFF TEILIWR. Bu'n ffyddlon tra'n rhodio'n rhydd-i lunio Siwtiau glanwaith ddeunydd Hen wr gwyw yn nhragywydd Siwt y saer yn swatio sydd. ISLWYN FFOWC ELIS. JOHN LLEWELYN ROBERTS.