Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TOHW-WA-BOHW. Dyfnfor yw gorwel du faterol ein difaterwch cerrynt llwyd'yn cario haint y lle'n frith dryfrith drafn hyd enaid â'u rhwydenni; ac er disgwyl a gwylio, ystyried ac edrych o lan i wedd ein blynyddoedd, ni cheir mwy a all sychu'r môr tohw-wa-bohw y byd. Traha ar ro awch ein trachwant, yn tywalltu o'r tywylldarth hyd frig clefyd froc clwyfau, a'r traeth wedi'r trwythiad yn wast o ffwng a stwff angau, tohŵ-wa-bohŵ y byd. Nid oes llais ond llais nad yw'n llun, na gwynt ond y gwynt gwag o foel i foel yn ymbalfalu'r nos hyd eira distawrwydd, nac anadl ond anadl dallineb tohŵ-wa-bohŵ y byd. Ond y mae o wrando am hir murmur awyr ar y môr ewyn daw yr awel i'r tir hwn ar gyrrau traeth, daw i ddihuno dyn fel gwawr drafaeliog o hen y mae goleuni'n pori'r paith, yn awydd dant ar yr aflonydd dwfn, yn addewid o wefr yn y deunydd dwfn, tohw-wa-bohw y byd. Daw o angen yr enedigaeth ar awr y tymp yn ddisglair i'r tir lun yr anadl yn yr enaid a phan welir ym medel y tawelwch ddyfnfor y gorwel yn yr ias grisial fel cri gwyryfol creu, tohŵ-wa-bohŵ ni bydd. Cerddi. EUROS BOWEN.