Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWANWYN CWM DYWELAN. Euthum i mewn iddo cyn ei ddeall, Ei wybod cyn gwybod amdano. Fel mwg O'm cwmpas 'roedd y golau'n cynnull Drwy'r dail a'r adar a'r borfa'n bendramwnwg Fel oen diwair Yn y rhyddid cyntaf y tarddasom ohono. Ac O, neidiais innau ar drywydd Y sioncrwydd oedd yn y gwair Y bywyd ac ansawdd bywyd oedd yn y nant newydd. Mae'r fiwyddyn wedi cael troedigaeth. Oes y mae egni ym mhob man. Mae'n hollti'r byd. Ef yw'r Dirgelwch diderfyn sy'n cysuro bod. I lawr ar lan yr afon mae'r llyffantod A llug-y-dwr yn ymsymud Tu hwnt i dda a drwg,­-o'r ffordd yr af i- Gan daenu'u traed tyner ar gelain y gaeaf. Aeth y gaeaf at ei dadau. Bu'n llym bu'n fyw. Ac wele'r rhain Y byw a goncrodd y byw, ac angau angau Ar y weirglodd basgedig hon. Daeth y gwanwyn drwy dwll y bore A'i 'sgidiau'n atseinio'n daer ar betalau'r dwyrain Fcl milwr ifanc yn dyfod adre. Trist a hapus yw symud. Gwelais frigau gwyn yn ymwthio'n slei Fel llygaid plant o'u cuddfannau. Gwelais wir wefr y gwynt wrth anwylo briallen Mor dyner â gweddi a'r un mor gymen. Gwclais raeadr lawn fronnog ffyslyd Yn llamu drwodd i ystyr bod Heb wrthrych, o'r tu mewn yn oddrychol. Deuthum i mewn iddi cyn ei deall, Cyn gwybod amdani ei gwybod- Yr un gyflawn, y cyfarfod, y cyfanrwydd. Bydd ystyr yn yr awel bellach, a bod wrth ei phrofi, Ac i lawr wrth y nant y mae tair cenhinen-Pedr Felen-felen, wedi cloi'r heulwen yn eu calon A hen olwg ddireidus arnynt fel merched ysgol Mewn cornel wedi cael cyfrinach. BOBI JONES.