Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWEDDI'R ESGYRN. Dyro inni, o Dduw a Thad ein cenedl, Yng nghrinder ein dyddiau ysgytwad oddi fry, Yn gryndod trydanol mewn mynwent o ddyffryn Rhwng y Gadair a'r Aran, y Bannau a'r Mynydd Du. Maddau inni, ein Tad, am gydorwedd yma, Asgwrn wrth asgwrn ar domenydd ein gwlad, Y fwltur Imperial wedi cignoethi'r gelain, A'r pryfed diwydiannol yn rhidyllu'r stad. O Arglwydd, danfon anadl y pedwar gwynt I'n casglu at ein gilydd ac i'n codi ni ar ein traed, Gwisg yr ysgerbwd a chnawd ei hen han'-s A byrlyma Gymreictod trwyddo'n ferw gwaed. A dyro, o Dduw, i'r hen lygaid a gynefinodd A marwoldeb esgyrnog ein blynyddoedd' ni Y dewrder i edrych ar dy greadigaeth newydd A'i hadnabod fel cenedl yn un o'th ymerodraethau Di. Ac erfyniwn am nerth i ymsythu ac edrych Ar y mellt dychrynllyd yn dy lygaid yn awr, Y mellt a'n cerydda ni i symud ac arddu'r dyffryn Gyda Phadarn a Beuno, Dewi ac Illtyd Fawr. JAMES NICHOLAS.