Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bwriad cyntaf Thomas Lewis, tad Meurig, oedd bod yn bregethwr, ond profodd Arholiad Awst yn rhwystr iddo, a chan fod trin brethyn a dillad isaf yn llawer glanach ac ysgafnach gwaith, ac am hynny yn nes i'w ddclfryd cyntaf, na thrin llechi, dewisodd brentisiaeth tu ôl i gownter yn hytrach na chwarel. Priododd ferch ei feistr a phrynodd oriawr aur a chadwyn. Yr oedd yr wrogaeth glaear a dalodd yn ei ieuenctid, a'r cyfrifoldeb o gael swm braf wrth ci enw yn y banc a mwy na neb arall yn nhaflen cyfrifon Seilo, M.C., Llanifor, ynghyda'i wallt a frithodd yn gynnar wedi rhoi golwg fel un o Gcnhadon Hedd ei gyfundeb iddo. Ar bwys yr olwg yma a dylêd llawerocdd o'i gyd-aclodau etholwyd ef yn flaenor. Ni fedrai osgoi'r Cyngor Sir wedyn, ac oni ddigwyddai rhywbeth mawr fel canoli awdurdod ac amddifadu gwerin gwlad o'i braint o dorri croes wrth enwau siopwyr a fferm- wyr ac adeiladwyr cefnog i'w hanfon i Gaernarfon i bwyllgora ac yfed te a gwella eu busnes dair a phedair gwaith yn yr wythnos, yr oedd ganddo bob siawns i fod yn Henadur yn y dyfodol agos. Bu mam Meurig farw pan aned ei chwaer a daeth ei Fodryb Sal, chwaer ei dad i gadw ty iddynt a magu'r baban. 'Roedd hi'n ymddwyn fel petai ei brawd wedi pasio Arholiad Awst. Dysgodd i Feurig pa mor bwysig oedd dweud plis a thanciw, a pheidio â maeddu'r lliain bwrdd, a chodi ei gap i ferched The Laurels, ac eistedd mor bell ag y medrai oddi wrth y plant yn yr ysgol rhag ofn iddo gael chwannen neu rywbeth gwaeth. Cribai ei ben bob nos efo crib mân. Unwaith coronwyd ei hymdrechion. Daliodd un o'r rhywbeth gwaeth, a gallai Meurig hyd y dydd heddiw glywed clec y creadur boliog rhwng ewinedd ei bodiau. Ond yr oedd Meurig bron yn ddeuddeg oed pan ddaeth ei fodryb atynt, ac heb anghofio iddo weld ei fam yn crio fwy nac unwaith ar ei phen ei hun yn y llofft. A'i chlywed un tro yn dweud, "Rhagrithiwr ydach chi! 'Rydw i'n gwcddio bob nos y tyfith yr hogyn bach 'ma'n wahanol iawn i chi." Gwnaeth yntau ci orau i ateb gweddiau ei fam. Pethau arwynebol syml ar y cychwyn. Siaradai ei dad yn fwyn felfedaidd fel ffidil â miwt arni. Ffugiodd Meurig lais cras uchel. Sychai ei dad ei draed yn ofalus cyn dod i'r ty. Deuai Meurig i'r gegin a'i esgidiau'n drybola ar waethaf tafod ei fodryb. Siaradai ei dad drwy'r dydd ond cael rhywun i wrando arno, ac am hynny treuliai Meurig oriau heb agor ei geg, "wedi sori," chwedl ei fodryb, "hen hogyn fylgar." Fel yr heneiddiai a deall rhywfaint ar du mewn yn hytrach na thu allan ei dad, cefnodd ar y gwahaniaethau arwynebol fel pethau dibwys a chanolbwyntio ar y rhai meddyliol. Darganfu beth oedd gwir ystyr y gair rhagrithiwr. Pan glywodd ef gyntaf rhywbeth cyfystyr â'r Brenin John a Chripen ydoedd. Bu'n