Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CROCODEIL. Os oes rhywbeth sy'n fwrn ar f'ysbryd i, mynd i siopio hefo'r merched yma yw hynny. 'Rwy'n eithaf bodlon talu-o fewn Iheswm-ond buan iawn y caf ddigon ar y crwydro o siop i siop, y syllu maith yn y ffenestri, y cymharu, a'r chwilio a'r chwalu. Dyna pam y gadewais hwy i'w pethau, a threfnu i'w cyfarfod ymhen rhyw ddwyawr wrth y pier. Euthum i lawr heibio'r siou gcffylau bach, drwy'r coed plân, a than bont y rheilffordd, a cherdded y rhodfa am ryw awr, cyn eistcdd i lawr yn swrth gysurus yn yr haul. Yn union gyferbyn â mi yr oedd bwth Pwnsh-a-Jiwdi wedi ei fwrw'n ddiseremoni ar ei ochr, y cyrten gwyrdd ar ei wyneb yn hongian yn llipa, a gwylan lwyd yn lleisio'n aflafar oddi ar un pen iddo. Tipyn cyn tri daeth gwr a gwraig tua'r bwth y gŵr mewn Ilodrau melfared a chrys agored, a sandalau am ei draed, ac heb roi'r rasal ar ei fochgernau ers deuddydd neu dri; a'r wraig yn gwisgo sgert goch, a blows wen a brodwaith o flodau amryliw arni. Yr oedd ei gwallt du wedi ei dynnu'n glos am ei phen a rhes wen yn y canol, a thlysau yn crogi wrth ei dwy glust. Yn trotian wrth eu hochr yr oedd daeargi bach blewog yn rhwym wrth dennyn. Safodd y ddau ger y bwth. Plygodd y dyn i agor clo'r locer bren a oedd ar y llawr yn ymyl, a thynnu allan gwd lledr a choes iddo, a'i osod ar ben y bocs. Taniodd sigaret a throi i bwyso ar y wal fôr. Clymodd y dennyn wrth y canllaw ar ben y wal. Eisteddodd y wraig ar y locer a thynnu ei sgert goch gwta yn dynn am ei chluniau. Yr oedd croen ei hwyneb a'i gwddf a'i dwyfron hyd at ymyl y flows wedi melynu yn yr haul. Syllai ar y dorf o bobl a rodiai'n ôl a blaen ar y prom heb wên ar ei gwefusau, a rhyw olwg hanrier dirmygus yn ei llygaid. Fe wenai'n ffals ddigon yn y man wrth chwifio'r cwd lledr o dan eu trwynau, a gwrando ar y ceiniogau hawdd yn disgyn iddo. Am beth y meddyliai hi tybed ? A oedd gorohian plant yn rhywbeth amgenach iddi na rhent llety, a phres diod ? 'Wn i ddim. A welsoch chwi fuches yn troi o'r borfa amser godro ? Un fuwch yn codi ei phen a chymryd cam neu ddau tua'r adwy, ac aros a phori drachefn. Yna un arall ac un arall; dwy neu dair wedyn yn symud yn hamddenol gyda'i gilydd; yna ymhen y rhawg y fuches i gyd yn dwr wrth yr adwy, ac yn dechrau brefu. A'r cwbl heb na chloc na bugail.