Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ystyried. 1. Waldo Williams. Y WENNOL YN OL I'W NYTH. Rhyfel rhwng dyn ac iaith yw barddoni, a hanes un frwydr yw cerdd. Bodlona cerdd wan ar gyhoeddi canlyniad y frwydr. Ond mewn cerdd dda dilynir cwrs yr ymdrech o'r dechrau i'r diwedd. Dyma paham y mae'n rhaid i'r bardd fod yn gwbl onest ag ef ei hun. Temtasiwn bob amser yw cuddio rhan o'r symbyliad, a dewis y ffordd hawdd i fynegi profiad. Rhaid wrth onestrwydd i wynebu'r profiad yn gyflawn, ac i chwilio hefyd am y gair a'r rhithm sy'n gweddu addasaf iddo. Amhosibl yw darllen cerddi Waldo Williams heb ymdeimlo â'r gonestrwydd hwn ar ei eithaf. Dim ond gan ddau fardd arall yn y ganrif hon y cawsom ddefnyddio tebyg ar yr iaith Gymraeg, ac ar ei ddefnydd o iaith, yn y pen draw, y mae mesur pob bardd. O ran ei gred, bardd Cristnogol ydyw. Ond nid bardd unrhyw grefydd ffurfiol. Ni chyffwrdd â dogma nac athrawiaeth ddiwinyddol. Yn ei gred gadarn yng nghorff y saint saif ar wahân i bob enwad ymneilltuol, ond yn ei bwyslais ar gymundeb uniongyrchol yr unigolyn â'r ysbrydol mae'n nês o lawer at John Wesley neu Williams Pantycelyn yn ei ddyddiau olaf nag at y ffydd Gatholig. Yn wir, fel dyn ac fel Cristion ni cherddodd erioed lwybr unrhyw dyrfa. Unigolyn ydyw, ond unigolyn a ddyry bwyslais trwm ar gyfrifoldeb byw mewn cymdeithas. Gellid efallai grynhoi ei gred i ddau gymal, y naill o enau Crist, a'r llall o Gredo'r Apostolion-" Câr dy gymydog fel ti dy hun a "Credaf yng Nghymun y Saint." Hawlia'r cyntaf gariad di- amod, diderfynau tuag at gyd-ddyn, cariad sy'n arwain i frwydr ddiflino yn erbyn gwladwriaeth am ei bod yn llyffetheirio enaid yr unigolyn. Golyga'r ail ffydd bendant yn y byd a'r bywyd ysbrydol. Ar lawer ystyr cyfriniwr ydyw, a'r ysbrydol yn fyw iawn iddo ac yn symbyliad i'w waith. Mae dau berygl amlwg mewn coleddu'r fath ffydd yn mhres- enoldeb a grym y byd ysbrydol. Mae perygl i'r bardd syrthio i dir y breuddwydiwr haniaethol, defnyddio ffigyrau niwlog a llenwi ei waith a delweddau sydd heb ystyr i'r rhelyw. Y perygl arall yw iddo flino ar yr ymdrech i fynegi rhywbeth sydd mor anodd i'w gynnwys mewn geiriau a bodloni yn y diwedd ar sôn am yr ysbrydol yn hytrach na'i fynegi. Sylwn sut y mae Waldo Wiliams yn delio â'r broblem, mewn cerdd sydd ar yr wyneb yn syml iawn, sef Eirlysiau." Hen destun blodau'r gwanwyn hen