Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sef, trafod ein Harlunwyr ar bapur. Ceir gan David Bell ymdrin- iaeth â'r rhan fwyaf o'n hartistiaid o Richard Wilson hyd at John Elwyn a'i gyfoeswyr. Gadawodd un allan yr hoffwn i ei chymryd yn enghraiftt deg o'r hyn sy'n gwneud arluniaeth yn faban iach celfyddyd yng Nghymru, sef Brenda Chamberlain. Y mae Brenda Chamberlain ymhlith y lleiafrif bychan yng Nghymru sy'n byw ar ei chelfyddyd. Am dros ugain mlynedd bu'n arlunio gyda hyder ac argyhoeddiad. Maged hi ym Mangor, ac ar ôl gadael yr ysgol bu'n byw yn Copenhagen. Yno y gwelodd yr arluniaeth fodern am y tro cyntaf. Trawyd hi fwyaf gan luniau cynnar Paul Gauguin. O 1931-1936 bu'n astudio yn ysgolion yr Academi Frenhinol. Ar ddechrau'r rhyfel troes ei chefn ar ryddid gymharol y canfas am gyfyngder gair a llinell. Dech- reuodd ysgrifennu barddoniaeth. Ond yn 1946 ail gydiodd yn y brws paent a chychwynodd cyfnod creadigol iawn yn ei hanes, cyfnod bendithiol iawn o safbwynt arluniaeth Gymraeg. Daeth Brenda Chamberlain yn gynnar i adnabod lluniau Paul Gauguin, a'i ddylanwad ef yn bennaf sydd ar ei gwaith. Lledaenydd cyfosodiaeth ydoedd ef. Ffurfiau mawr, syml; lliwiau ftlat absenoldeb cysgodion cynlluniau a lliwiau haniaethol, dyna ydoedd egwyddorion y gredo a ffurfiodd ef iddo'i hun tua 1888. Gwnaeth lawer o'i waith yn ynysoedd Môr y De. Aeth yno i chwilio am burdeb, am ddiniweidrwydd cyntefig, am ddihangfa rhag annaturioldeb gwareiddiad ac am ffordd i'w anghofio ei hun. Rhoddodd Gauguin ei hun yn aberth i'w gelfyddyd a chafodd y byd arlunydd mawr. Y mae Brenda Chamberlain hithau yn llwyr yng ngwasanaeth ei chelfyddyd. Sylweddolodd fod yr artist creadigol ychydig y tu allan i gymdeithas a'i chonfensiynau. Un ydyw sy'n ymwrthod â disgyblaeth gymdeithasol yn ei hymgais i ddisgyblu ei hysbryd- oliaeth. Mewn darlith yn ddiweddar dywedodd the artist is both anarchist and autocrat and, in an otherwise regimented world, dares to proclaim himself as an individual in oppositoin to the mass mind; even though, secretly and ultimately, whether he knows it or not, working for the Glory of God. He declares himself for the aristocracy of independent thought and respons- ibility." Fel Gauguin aeth Brenda Chamberlain i ynys i greu. Aeth i Enlli. Dilynnodd gyfosodiaeth Gauguin ond rhoddodd iddo stamp ei phersonoliaeth ei hun. Ganddi ceir yr un difrifwch tawel a'r unrhyw ddwyshad mawreddog. Yn y dwylo, y traed a'r llygaid y mynegir cymeriad ei darluniau. Hyd yn oed mewn llun o bysgotwr fel "Fisherman with a John Dory" nid yr olygwedd erwin sydd fwyaf amlwg ond yr olwg bell a'r dwylo mawr cryf.