Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nid oes llawenydd ar wynebau ei chymeriadau. Hyd yn oed yn "Carnival de Nice" troi i lawr a wna'r gwefusau a'r llygaid. Dyn grymus, gormesol a thrahaus ydoedd Gauguin. Lliwiau cryf ydyw melyn, coch, oren, a gwyrdd lliwiau gwr sicr ohono'i hun. Nid dyna liwiau Brenda Chamberlain. Gwraig ddiymffrost, braidd yn swil ydyw. Nid yw'n ceisio gwthio ei chredo ar ei chynulleidfa fel yr unig iachawdwriaeth. Pine, glas, du a gwyn yw ei lliwiau lliwiau gwan. Gwraig ddiffuant yn ymbil â'r byd i dderbyn ei neges yw hi. GERAINT S. JONES. FFILMIAU. Diwylliant y Masnachwr. Voltaire a ddywedodd mai cenedl o fasnachwyr yw'r Saeson. A gwir ei ddyfarniad. Ac fel bob amser mewn cymdeithas a seihwyd ar fasnach sicrwydd a diogelwch ym mhob agwedd ar fywyd yw'r nodweddion a brisir yn bennaf ganddi. Dyna paham y cais moeseg Lloegr orchfygu unrhyw rym a fygythio sefyd- logrwydd ei bywyd. Rhaid, er enghraiíft, alltudio chwant a rhyw am mai hwy yw prif elynion bywyd sicr yr unigolyn. Y mae'r agwedd feddwl hon yn dylanwadu'n aníî'afriol ar gyflwr diwylliant ym Mhrydain, ac adlewyrchir hynny yn eithaf amlwg ym myd y ffilmiau. Gellir dcsbarthu'r ffilmiau a gynhyrchir ym Mhrydain yn dri dosbarth, ffilmiau ffantasi, ffilmiau rhamant a ffilmiau jingoistaidd. Yn y dosbarth cyntaf anwybyddir pob grym bygythiol. Engh- relfttiau o'r math hwn yw Genevieve a Doctor in the House." Cais yr ail ddosbarth weu rhamant o'r pwerau dinistriol. Dyma ddamhegion du-a-gwyn y "tough guy" fel "The Third Man" ac "Odd Man Out." Yn y ihlmiau jingoistaidd ceisir dangos i'r byd a'r betws y gellir concro pob drwg. Clasur o'r teip yw "Mrs. Miniver." Wrth gwrs fe roes y tri dosbarth hyn inni ffilmiau cofiadwy, rhai ohonynt yn glasuron. Ond ynddynt oll dim ond rhan o fywyd a bortreir. Duwiau y cynhyrchwyr a'r sensor yw rhamant a ftantasi, a chyfynga hynny ar y ddarpariaeth o ffilmiau a gyflwynir i'r cyhoedd. Tra pery'r duwiau hyn, erys y ddarpar- iaeth yn anghyflawn a bydd y gelfyddyd yn afreal. Ohenvydd ffolineb ac anonestrwydd yw cau llygaid i'r rhan y mae chwant a rhyw, er engraifft, yn ei chwarae mewn bywyd, ac ni ddichon cael na moeseg na chelfyddyd iach o geisio cuddio pwerau fel y rhain oddi tan gochl parchusrwydd.