Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau. Bwriada Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ddiwygio'r Brif- wyl. Eisoes dewisodd gomisiwn ad-drefnu i'w gynghori beth orau i'w wneuthur. Llongyfarchwn y Cyngor ar benderfynu gweith- redu o'r diwedd ac edrychwn ymlaen yn ddisgwylgar at weld cyhoeddi ei argymhellion. Gall y rheini fod yn drobwynt pwysig yn hanes yr Eisteddfod. Hyd yn hyn ni chaed unrhyw ddatganiad swyddogol sy'n awgrymu beth y bwriedir ei wneud. Ond y mae'n deg tybio mai un peth a gaiff sylw gofalus gan y comisiwn yw cost yr Eisteddfod a sut i'w leihau. Diau hefyd y bydd y comisiwn yn ystyried ar yr un pryd sut i godi safonau'r wyl. Clywir cwyno mynych bod yr Eisteddfod yn llawer rhy gostus ac yn llawer rhy fawr. Ac yn gyffredin ystyrrir mai'r unig ffordd i gwtogi'r gost yw cyfyngu ar y gweithrediadau. Gobeithiwn na bydd i'r Cyngor dderbyn yr agwedd boblogaidd hon. Amheuwn a fyddai cwtogi gweithrediadau'r Eisteddfod yn ddoeth yn ymarferol. Ffaith ddiymwad na ellir mo'i hanwybyddu yw nad y pafiliwn mawr, ag eithrio ar brynhawn Iau, sy'n denu mwyafrif yr eisteddfodwyr. Fe'u denir hwy yn hytrach gan gyfeillach y maes a chymdeithas y pabelli bychain o'i gwmpas. A lleihau apêl yr Eisteddfod a wnai cyfyngu ar ei gweithrediadau a'i throi yn glamp o eisteddfod festri fawr. Deuai llai yno. Dyna pam y pryderwn am ŵyl Caernarfon 1959. Yno penderfynwyd defnyddio adeilad yn y dref yn lle'r pafiliwn symudol presennol. O ganlyniad bydd yn rhaid cael y babell lên a'r arddangosfa celf a chrefft ar wasgar mewn adeiladau eraill. Ni bydd yno faes eisteddfod. Mae'n wir yr arbedir cryn dipyn mewn costau ond y mae perygl y collir mewn derbyniadau mynediad gymaint ag a arbedir. Ac yn sicr bydd cyfyngu ar weithrediadau'r Eisteddfod yn lleihau ei gwerth fel sefydliad. Nid cyfanswm y budd a ddeillia o'i gwahanol gystadleuthau yw prif werth yr Eisteddfod. Yn wir amheuwn faint o wir werth diwylliannol sydd i gystadlu o gwbl. Yn sicr tueddir i'w orbrisio. Pennaf gwerth yr Eisteddfod yw ei gwerth fel gŵyl genedlaethol. Hi yw gwyl Gymraeg Cymru. I'r sawl sy'n ymddiddori yn niwylliant Cymru ac yn ymegnio trosto y mae'n donic ysbryd. I'r llugoer Philistaidd