Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi. CAERDYDD. Yma lle y treia Taf ei math o fôr undyn Rhwng muriau gwythïen na châr y gwaedlif du Mae bias anobaith, pontydd traffig i bobman Heb gyrraedd yr un, a'r holl orffennol gwlyb Heb berthyn i'r dyfodol. Yma y treia Taf. A minnau'n llanc agored i ysbrydoedd Fe ddarfu iaith i mi fel digwydd byd. Diferodd arnaf, meddiannu â chefnfor iach, Tonni o'm cwmpas a chwyddo'n ysgwydd esmwyth Ac eto'n ffres, yn bur, yn glir fel dwr, A'm boddi. Mae rhywbeth nas adwaenir mewn dwr. Awyr sy'n drymach yw, ond heb bellter awyr Boed ef ar ymyl llyn fel aelod gwyn, mewn crwybr anadl Neu ar lan nant a'i sêr yn ffair ddi-sobrwydd Neu'r môr, mae'r môr yn alarch sydd yn symud Dros fynwes drist ein llygaid heb lesgáu, Yn symud gyda nerth a thrwch distawrwydd. Estynna dwr ein hystyr: ef yw'r cydiwr, Yr amgylchydd ar ein teimlad, dwfn i'r wefus Mewn bedydd mae mor dawel â chwsg rhiain Yn cyffwrdd â'n talcen cras gan wybod poen. Daw i mewn i'n dwylo fel anifail Llithra o'n gafael fel einioes. Ond ysbryd yw, Ysbryd sy'n oer ar goesau. Crys y ddaear. Chwarddwr aflonydd nosweithiau glan y môr. Pan oeddwn yn llanc o gorff, yr iaith Gymraeg A dasgai gynt drwy hwyl a mawredd llysoedd, Ond nawr sy'n sugno ystyr ein gweddillion ynghyd, Hi fu. Sut geirio curo'r galon ? Y derbyn ar fy nhalcen ? Llywiodd fi Rhag strydoedd dur, drwy goridorau clercod