Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ER COF AM J.R.R. F'ellyll bach, ffarwel. Crëwr y chwerthin gwyn, cynhaliwr miri, corddwr sbri, ξ rhoit dy dristwch i'r drych. Ni welais yn rhaniad disglair dy wallt ond ffordd wen, union, a'th blygion oedd imi'n anhyblyg syth. Gwlithaist y gwawn ar f'oriau gwyn, bedyddiaist fi â gortoledd. F'ellyll bach ni welais i'r wyneb yn y drych. Dysgaist imi chwarae. Gyrraist fy chwerthin yn deilchion rhwng gwib a chwymp y belen fach, a gweuaist hon yn wennol chwim drwy wyll glas y lôn gefn. Fel clown mewn ffair troit din dros ben, ac i gyfeiliant dy chwerthin herciog ffrwydrai dy wyneb yn f'wyneb i. Ni welais y sorod yng ngwin y llygad. Tywysaist fi dros lethrau'r Cwm, fyr-gam, bras-gam, gan ddangos imi ffeuau'r cadno, y llwybrau rhwng y rhedyn, a gweriniaeth lwyd y morgrug dan y cerrig Sibrydaist wrthyf am y saith llyn, am ryfeddodau Dunbath, am wg y saith gawr ar ffordd y plwyf. Hongiennaist fy mraw uwch pwll y Ton lle disgynnai'r rhaff i'r du. Ni welais y baich ym môn y rhaff. I