Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDD. Gwelais ddau 'sgyfarnog yn yr yd yn cwffio ac ymlid pedair hirglust yn cyniwair, dau gorff gosgeiddig yn cydio a neilltuo, cyffwrdd a bwhwman, fel dwy dywysen lawn o'r yd yn ysgwyd yn nawns y gwynt. 'Roedd y traed cnotiog, y bonion praff, â'u gwreiddiau'n balf yn y tir. Hon oedd y ddawns gyntefig. y cydio rhwng grawn a gro, y cwlwm rhwng gwys a gwaed. Heibio a throsodd golchai'r tonnau d nes sefyll yr ewyn disglair ar y ffroenau tal, a rhywle, rhywle, offrymu'r hâd i hap a llawnder y fru. Hon oedd y ddewns gyntefig. Trwy'r sêr llygadrwth hen gwelaf y ddau 'sgyfarnog ar lawr doe ac echddoe yn tuthio a hercian dan loer lawn Medi a maith orffwylledd Mawrth- Mae eu hymlid yn heddiw a thragywydd yng ngwâl, gwely a gwely gordd, ac yng nghilfachau'r haidd. A chludant, rhwng pob pawen felfed, noddant, rhwng pob saethdrem wyllt, fod: dim ond bod; ysgafn, heini, dwl, ansylweddol fel cân adar, bwrlwm pistyll, neu'r ddawns gyntefig ar y ddôl. GARETH ALBAN DAVIES.