Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CORS DDYGA. Lle mae popeth gwlad yn llwm, Yn fae a'i fôr oddi cartref, A'r ddafad ar ddiwedydd Yn llusgo'i nos o'i hôl tua'r haul, Nid af i'r hydref gyda'i ddail di-goed. Gallasai'r gors wrth daenu'r angau brown Fod imi'n ddameg fel dameg mab annuw, Gallaswn blymio fy llygaid Orffews i'w llaid A'i galw yn deyrnas marwolaeth Oni bai am Gors Ddyga. Mi af i'w thrin. Bydded fy llygaid yn erydr I droi ei hafluniaidd cyntefig, Boed agor rhesi ei gwacterau sur, Clywch ei hanfod yn ffrwydro'n y dwr Pob swigen yn fyd dynion, Yn ddirwasgiad economaidd, Yn gwymp cenedl, yn greadigaeth planed, Pob ffrwydriad yn tasgu mellt coch Dinasoedd, ffatrioedd, labordai. Nid yw ond gwraig yn gosod torth ar fwrdd. Mae ynof syllu ym myw eneidiau, Cyfarch yn gwynnu migyrnau Yma pan sugna'r haul y rhin Trwy drobwll drudwy- Wyneb di-dreigl disglair yn y both. A thoc daw seren o wirionedd Gan symud dinodedd y dyfroedd, Daw llwyddo'r aflwyddiant, Bydd wych wywder, Ynghanol marwolaeth byddwn mewn bywyd. GLYNDWR THOMAS.