Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HWYRNOS HAF. Mewn coedlan tawel lannerch ] I fynwes oedd drigfan serch. Ym min hwyr man i aros, Lle serenâd lleisiau'r nos. Heigiai'r ychen pengrychiog I'r hafan, man lle cân cog. Hwyliai'r haul ar ei elor I harddu maes, rhuddo môr, Rhoi lliw anaf i'r afon A delwau'r dail ar y don. Yno mwyn cwmni meinwen, Addoli is brig gwyrddlas bren, Addoli grudd ail gwawr rhos Eiliw'r cwrel a'r ceirios Ei deufin, a dihafal Od a thus ar hyd ei thal Ffynhonnau liw cangau'r cyll Is to o dresi tywyll, A'i mynwes is ei thresi Mal y lluwch neu ymyl lli, Ei hosgo mor rhwydd ysgawn A hynt y gwynt yn y gwawn. Edn a'i sbri i'r deri'n dod Yno i rwymo'r amod A thon leddf ysguthan las Yn bwrw hud i'r briodas, Hoff o aros uwch ffwrwm Dau'n eu cred mewn rhedyn crwm. O na chawn wedi chwennych Ware o hyd lle pawr ych, A chyda gwenferch wedyn Oedi oes yng nghysgod ynn. DIC JONES.