Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SWYN Y FRO. Pencaer cerrig llwydion, ar^íl lonydd O'r drum oesol uwch erydr y meysydd, Y Morfa a'r Ynys o'u mawr fronnydd A'r caeau liafur yn marco'u llefydd Mewn awr ym min Iwerydd-Tri hyfryd Ag arlliw golud, gerllaw ei gilydd. Gwaun a Nanhyfer a gân yn nefoedd Eu caeau a phrennau eu dyrfrynnoedd, Ac esgud lifo trwy gysgodleoedd Pan blyg y llwyn rnag cwyn y drycinoedd A difriw yw eu dyfroedd-heb drais gwýr A'u rhedfa'n bur ger eu dwfn aberoedd. O Wdig i Drefdraeth, gwregys traethau A'u clych yn galw. Ciywch awen y gwyliau Miri yr hat yw morio â rhwyfau Neu hwylio'r buain ar heli'r baeau, Nofio'n llon yn y tonnau-cael eu rhin Yn suon cregin, yn atsain creigiau. Cynefin cryfder, goror y morwyr A heriai wyntoedd ar lwybr eu hantur. Trechu ar ewyn yn trochi'r awyr ­O Abergwaun erioed ni bu'r gwanwyr Cofio'r mastys yng nghysur-hen ddyddiau A herio llongau yn holl ieuangwyr. Cyfathrach Brynach y bore awenus A hen gymdogaeth y mawl hiraethus, Er deugain to a'r Duw gwyn i'w tywys Drwy'r weddi gudd neu drwy'r waedd gyhoeddus A thrwy ddewrder pryderus­llawer llef Ag anadl y Nef ar genedl nwyfus. O fwyn gymdogaeth i'w gwasanaethu Galon wrth galon, a'i diogelu A chadw ei hen hoedl a chydanadlu A'i henwau cynnar trwy hoen y canu. Codi'n gad er cadw'n gu-rhag pob haint A rhyn ac amraint ein rhan o Gymru.