Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O MOR SIRIOL GWENA SEREN.1 Yr oedd hi tua phump o'r gloch ar noson oer o Ragfyr cynnar yn y Ddinas. Allan yn y wlad, rai milltiroedd i ffwrdd mach- ludai haul gwannaidd mewn carpiau o niwl, ac ysgrytiai'r cread- uriaid gwylltion yn ddigalon. Ond yma yn y Ddinas, yr oedd y wawr ar dorri. Bob eiliad ymddangosai winc newydd o neon llachar i'w ychwanegu at y parwm symudliw aflonydd a fwried.d i lygad-dynnu ac i ennyn barn pob prynwr nwyddau. Llyncai'r Tiwb rimyn diddiwedd o bobl i'w grombil cynnes, pob un ar frys diamynedd, pob un yn ddieithryn, a phob un â'i holl fryd ar wingo'i ffordd i'w ddaear fach ei hun. Llifai'r llanw pump dros wyneb y ddinas hefyd, bwsiau a beisiglau lu, a'r afrifed foduron yn gwau drwy'i gilydd yr oedd pawb yn mynd i rywle, a phawb yn hwyr. Dacw wr blonegog yn eistedd yn braf yng nghlydwch cynefin ei dacsi a'i wraig bluog, fodrwyog yn fodlon ddiog wrth ei ochr dacw lanc tal gwerog mewn siwt ddu a thei bow yn fawr ei drafferth wrth helpu tywysoges osgeiddig o fws dyna dramp carpiog ungoes wrth domen o bapurau newydd, a'i lef gryg ddi-leferydd yn godro iddo geiniogau prin a dacw ferch benddu yn loetran yn amcanus ar y gongl a'r neon yn ffrydio'n ddidostur dros ei chorff llawn, ei dillad rhad a'i gwên stiff ysgarlad. Cawsai'r twmpath ei gic beunosol, ac wele'r morgrug. Yr oedd y wawr ar dorri am bump o'r gloch yn y Ddinas. "Beth wnawn ni heno, 'nghariad i?" "Beth am ddrama, 'rwyt ti'n leicio drama on'd wyt ? Gloywodd ei llygad, a chofiodd yr hwyl a gawsai fel y forwyn fach yn "Cyfrinaeh Merch yr Hafod yn y Gymdeithas yn Soar y gaeaf diwethaf, pawb yn dweud ei bod fel sioe o bropor ac y dylai hi fod ar y 'stage.' Yn lle hynny, teipio'i bysedd yn bwt o naw tan bump yn swyddfa Prydderch. Dim rhagor o hynny. A ffrydiodd ei llawenydd yn oleuni byw o'i dau lygad glas. Dim rhagor o hynny a hithau'n wraig i Huwcyn ers pedair awr ar hugain a mwy. Chwarae teg iddo am awgrymu drama. Gwyddai nad oedd ganddo ormod o ddiddordeb mewn peth felly. Gwell gan Huwcyn grwydro'r wlad yn yr awyr agored. 'Roedd Eleri'n berffaith sicr y gwnai ŵr di-guro. Gwasgodd ei fraich fel arwydd o'i gwynfyd, a cherddodd y ddau rhagddynt i chwilio am chwaraedy. Bloeddiai ei gwrid naturiol hi a gwytnwch ei groen mahogani ef nad oeddynt yn perthyn i'r haid o'u cwmpas nid oedd angen hanner modfedd o drwch mewn gwadnau yma, a phwy byth fydd yn cario côt law yn blydon parchus ar fraich. Crwydrai'r ddau'n bwyllog a llawn rhyfeddod drwy'r rhaeadr o bobl ffwdanus, a sefyll toc wrth theatr "Y Glôb." Yr oedd yno ddarluniau lawer o'r chwaraewyr, ac ambell grynhoad o farn y Wasg. Camodd y ddau'n betrus dros