Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ystyrîed. 2. T. H. Parry-Williams. RHAI AGWEDDAU AR EI FARDDONIAETH. Awgrymodd nifer o feirniaid, wrth gyfeirio at y ffaith fod y rhan fwyaf o farddoniaeth T. H. Parry-Williams wedi ei ganu ar fesur y soned a'r rhigwm mai ymwadu o fwriad y mae â mesurau mwy rhwysgfawr. Y mae'n ddigon hawdd credu fod yn y dewis hwn o ddau fesur byr eu cwmpas ryw gymaint o adwaith yn erbyn barddoniaeth drwstfawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond tybed a yw'r esboniad hwn yn ddigonol ? Y mae'n awgrymiadol iawn bod T. H. Parry-Williams wedi parhau i ganu'n gyson ar y mesurau hyn, ac yn wir yn tueddu fwyfwy yn ei gyfrol ddiwethaf i grynhoi ei awen rhwng terfynau'r rhigwm Ni ellir felly briodoli'r dewis hwn o fesurau yn gyfangwbl i adwaith stranclyd bardd ieuanc yn erbyn confensiynau y genhed- laeth o'i flaen, ac ymddengys yr ymwrthod â'r cyfryngau cyfar- wydd yn rhywbeth mwy sylweddol 0 lawer nag adwaith. Gellir awgrymu bod un o sonedau mawr y bardd, sef "Moelni," yn allwedd sy'n rhoi cynorthwy nid yn unig i esbonio'r dewis o fesur ond hefyd i esbonio llawer ar gynnwys y farddoniaeth. Yn y soned Moelni" cydnebydd y bardd yn agored effaith rhyfedd ei amgylchfvd cynnar: "Ymwasgai henffurf y mynyddoedd hyn, Nes mynd o'u moelni i mewn i'm hanfod i." Dysgodd y bardd yn gynnar am fawredd y greadigaeth y'i ganed iddi; dysgodd am aruthredd Eryri a theimlodd ddinodedd ei fodolaeth ef yng nghysgod erwau anferth y moelni diffaith hwnnw Nid cyferbynu telynegol a geir yma ond cyffes o effaith dwfn yr ymwybod o unigrwydd dyn wyneb yn wyneb â chyntefigrwvdd cawraidd y tomenydd o graig a elwir yn fynyddoedd. Nid v mynydd barddonol sydd yma, ond un o bwerau anferth bywvd yn ei noethni haerllug, ac y mae'r profiad hwn a gaiff y bardd. o ddod wyneb yn wyneb â phwerau anorchfygol ac annirnad bvd a bywyd yn thema gvnhaliol trwy gorff helaeth o'i farddoniaeth. Pan ddywed v bardd fod y moelni wedi mynd vn rhan o'i hanfod. y mae'n cyfaddef iddo ddatblygu rhyw gvnneddf arbennií? i stripio bywyd o'i drimins a gweld y gwir plaen oddi tannodd. Ond nid yw'r hyn a wêl yn esbonio dim iddo, oblegid dyna fan cychwyn ei vmchwil fawr-yr vmchwil am ystyr i fywyd. Dechrau'r daith yw canfod y gwirionedd cyffredinol o dan y mil manylion, ond fe deimlir bod y bardd yn cael rhyw ryddhad o'r