Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GRAITH. Annwyl Dewi, Er nad wyt ti ddim yn annwyl imi bellach, mae'r hen arferiad o gychwyn llythyr yn gryf ynof, a theimlaf fod yn rhaid imi ysgrifennu atat cyn mynd. Wyddost ti ddim y munud 'ma beth fydd yn dy ddisgwyl di yma pan ddoi yn dy ôl. Ond hwyrach na fydd o ddim yn llawer o sioc iti, oherwydd 'rwyt ti wedi gweithio'n galed i geisio gwireddu dy freuddwydion. Ar un adeg, fyddwn i byth yn gadael i bethau lithro fel hyn, ond 'does gen i mo'r ynni i wrthsefyll 'rwan, a fedra' i wneud dim ond cymryd y ffordd hawsaf allan o'm holl helbulon. A chyn mynd, 'rydw i'n ysgrifennu hwn i'th atgoffa o'r gorff- ennol, ac i'th boeni yn y dytodol,-er ei bod yn anodd iawn gen i ddychmygu amdanat ti yn poeni am ddim ond amdanat ti dy hun. 'Does raid iti ddim ofni i'r llythyr yma fod yn dystiolaeth yn dy erbyn. Os digwydd i rywun arall ei ddarllen, ni fydd yn ddim ond dychymyg gwraig niwrotig wedi colli ei synhwyrau. Ac fe gei gydymdeimlad pawb. Gallaf dy ddarlunio yn fy nychymyg dy war llyfndew, a'r gwallt tywyll yn dechrau britho arno. Byw glwth a dewychodd dy war di. A chymaint o weithiau y plethais fy mysedd ym môn dy wallt tywyll, a'm gwefusau yn llaith gan dy gusanu. Ond yn y dyddiau ffôl hynny pan oedd ein teimladau'n aeddfed y gwnaem hynny. Fe ofelaist ti derfynu'r ffolineb hwnnw'n fuan iawn. Collais fy mhen yn lân pan welais di gyntaf. Gŵr ifanc mor olygus â thi yn cymryd diddordeb ynof fi o bawb 'Roeddwn yn aeres miloedd mi wn, ac nid ti oedd y cyntaf i geisio fy nenu â geiriau ffals. Ond blinai'r lleill arnaf wedi darganfod nad oedd gennyf ddim i'w gynnig iddynt ond arian. Ie, y ferch fach gyfoethog druan. Yn byw gyda'i mam weddw, a honno fel arthes yn ceisio cadw pob dyn draw. Fe wyddai hi, mae'n siwr, na fuasai unrhyw ddyn yn ei lawn syn- hwyrau yn gallu caru merch mor hyll â mi. Neu mor 'blaen,' fel y dywedai'r bobl hynny a hoffant roi geiriau neis ar bethau. (Yr un peth a olygai'r ddau air beth bynnag). A phan ddaethost ti i'r adwy, 'roeddwn i wedi llwyr ddiflasu ar ddynion. 'D oeddwn i ddim wedi bargeinio am dy amynedd di. Fe wnaeth Mam bopeth a fedrai i wneud pethau'n anodd iti, ond fe ddaliaist yn gadarn am dair blynedd hir. Prawf, meddwn wrthyf fy hun ac wrth Mam, dy fod yn fy ngharu i ac nid fy arian.