Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arolwg. BARDDONIAETH. Canu Cyfoes. Os am grasu teisen farddonol, cymerer un rhan Crefydd Ramantus, dwy ran Hiraeth am Hen Ddyddiau; ychwaneger Alltudiaeth fel bo'r angen, a gadawer yn y popty hyd nes y bydd bardd dros ei hanner cant oed. Ceir gwledd lenyddol iach, gyfforddus, addas ar gyfer unryw gyfarfod Gwyl Ddewi. Dyma syniad y Times Literary Supplement' am farddoniaeth Gymraeg, a dyma'n anffodus batrwm Cyfres Canu Cyfoes Gwasg Gee. Er godidoced llawer cerdd yn y cyfrolau a gyhoeddwyd eisoes, ni ddengys un gerdd ymgais i wynebu problemau Cymru gyfoes, ar wahân i gerddi cymdeithasol aflwyddiannus Pennar Davies, sydd yn ymosod heb gynnig unrhyw ateb. Propagandydd yw Pennar Davies, a dyna, ar un wedd, yw pob bardd. Mae'n cyfleu agwedd arbennig at fywyd trwy fynegi ei brofiad ei hun. Propagandydd serch oedd Dafydd ap Gwilym, propagandydd Cynddylig oedd Llywarch Hen. Propagandydd crefydd yw Pennar Davies. Ond mewn un ffordd yn unig y gall bardd fod yn bropagandydd trwy fynegi angerdd ei deimladau ei hun, nid trwy fydryddu syniadau neu gynganeddu athroniaeth. Mae barddoniaeth yn gofyn angerdd a chynildeb. Nid ydynt i'w cael ond trwy'r profiad personol. Unwaith y cais bardd weu ei waith o amgylch syniadau y mae'n ymbellau oddi wrth fywyd ac yn peidio a bod yn fardd. Gwelir hyn oll yn glir yn y gyfrol Naw Wfft (Gwasg Gee, 3/6). Yn ei gerddi telynegol, mae Pennar Davies yn canu caneuon serch sydd eto'n ganeuon cref- yddol. Mae'r serch iddo ef yn gysegredig, y nwyd a'r gwrthrych yr un modd yn greadigaethau Duw. Er gwaethaf ambell air llanw, ac ambell ansoddair ystrydebol, mae'n gallu cyfleu ei brofiad crefyddol ei hun trwy ei ymdeimlad o fiwsig geiriau, trwy ei feistrolaeth ar linellau byrion, a'i ddefnydd celfydd o eiriau tri a phedwar sill, a thrwy ddiffuantrwydd ei fynegiant. Mae angerdd Wijliams Parjtycelyn ^nddynt, a chrefftwaiith gelfydd a ffydd bendant. Mae yn y gyfrol ihefyd gorddi sydd yn edrych ar fywyd o'r tu allan. Gwaith cymharol hawdd yw cyfleu angerdd nwyd y bardd ei hun mewn geiriau. Mwy anodd o lawer yw'r ymgais i fynegi'r angerdd a droes syniad neu ddigwyddiad gwrth- rychol yn brofiad personol i'r bardd. Ni lwyddodd i wneud hyn, a'r syndod yw nad ydyw problemau Cymru gyfoes eto'n brof- iadau personol i fardd mor angerddol ei deimlad. Y mae teitl cyfrol Caradog Pritchard yn addas fe ddaeth y brenin Tantalus yn simbol dyhead anniwall, a'r dyhead na ellir ei ddigoni yw man-cychwyn pob bardd-ramantydd, dyhead am