Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Canu Chwarter Canrif" — (Gwasg Gee, 7/6). i Rhyfedd mai tynerwch yw nodwedd amlycaf casgliad canol oed y Dr. Peate. Canu rhamantus, hiracthus, prydferth, hen- ffasiwn, yw Canu Chwarter Canrif.' Rhyfedd hefyd i awyrgylch y cerddi atgoffa darllenydd yn aml o athroniaeth Omar Khayyam. Sylwer ar gwpled cyntaf y gyfrol Carcharor ydyw Dyn mewn cell fach' lom yn gweithio'i derm dan farnedigaeth drom, ac ar y llinellau olaf, o'r gerdd Cromlech Llwyneliddon:" Tyfodd y cen yn drwm dros feini llwyd mae'r glew yn angof er y gwylio maith, a'i unig lais yw fy mudanod i. Ceir hefyd, wrth gwrs, nodweddion a briodolid yn barotach i bersonoliaeth gyhoeddus yr awdur. Ond nid personoliaeth gyhoeddus a ddadlennir mewn cyfrol o farddoniaeth. Dengys gipolwg ar amheuon ac ofnau yn ogystal a chredoau pendant, a gwelir ambell nwyd annisgwyl yn sbecian rhwng llinellau cerdd. Cristion anghydffurfiol yw'r awdur, ond un a wybu loes amheuon yn ôl tystiolaeth ei waith, a rhywbeth tebyg iawn i anobaith o bryd i bryd. Sylfaenwyd crefftwaith y gyfrol ar gyfuno llifeiriant y mesur tri-thrawiad a cherddediad rheolaidd y mesur trwm ac ysgafn traddodiadol. Amrywiodd ei fesur yn gelfydd, a dengys ei ddefnydd o'r pennill hir a'i ymarferiadau ym myd y soned grefftwr gofalus, galluog wrth ei waith. Nid yw ei eirfa a'i ymadroddi mor llwyddiannus. Gwelir ymadroddion ystrydebol ac ansodd- eiriau llanw dro ar ôl tro trwy'r gyfrol, llawer o'r ansoddeiriau'n cyfleu dim, ac heb gyfrannu dim mwy nac odl ddi-swydd i'r gerdd gyfan. Ceir ymadroddi llac o'r math yn Gallt y Gofal Fe ddaw y dydd, fy machgen gwiw, i tithau ddechrau dringo'r rhiw o bont dy ddiniweidrwydd iach i'r drum nad edwyn ffydd plant bach. At hyn, gellid sôn am or-ddefnyddio rhai confensiynau llenyddol, yr arferiad o gyfarch gwrthrych y gerdd, ('fy machgen gwiw,' fy machgen gwyn,' flynyddoedd llwyd,' bêr Ddyfi,') ail adrodd rhai ymadroddion a ffigyrau, ac am lawer tant sentimental. O ganlyniad, fe geir argraff o ddiffyg graen gorffenedig yn y gyfrol drwodd a thro, diffyg arbenigrwydd yn y mynegiant a diffyg grym yn y weledigaeth. Yn ei gerddi gorau, 'Cymru,' Y Cawg Aur,'