Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARLUNIO. Angen am Feirmadaeth. Cyfeiriais yn rhifyn cyntaf Yr Arloeswr" at lyfr newydd ei gyhoeddi gan gwmni Harrap-" The Artist in Wales," gan David Bell. Gan mai ychydig iawn a ysgrifenwyd erioed am gelfyddyd, yng Nghymru, teimlwn y dylai gael mwy o sylw. Diffyg gwybodaeth ein cenedl am gelfyddyd ydoedd y sym- byliad y tu ôl i'r llyfr hwn. Ceisiodd yr awdur roi ymdrechion celfyddydol cyfoes yn eu persbectif iawn trwy arwain ei ddar- llenwyr ar hyd gamrau'r gorffennol yn gyntaf. Ceir cip ar bob gwaith artistig cysylltiedig â Chymru trwy'r blynyddoedd. Cynhwyswyd pob crefftwr a lwyddodd i droi ei grefft yn gelfyddyd gain. Ni chyfyngodd ei sylwadau i Gymry yn unig. Dewisodd yr ystyr ddaearyddol i'r gair "Cymru" er mwyn cynnwys pawb a ddewisodd ddod yma 1 greu. Y mae sylwadau cyntaf David Bell yn ymwneud a phen- saerniaeth. Oherwydd rhesymau economaidd peth cymharol ddiweddar yw diddordeb y Cymro yn y maes hwn. Gwir fod llawer adeilad hardd i'w weld ar hyd a lled y wlad, ond anrhegion gan gymdogion ydynt. Y mae llawer castell, a ffug gastell hardd i'w weld, ond nid cynnyrch pensaerniaeth Gymreig mohonynt. Y bwthyn ydoedd yr unig adeilad a allai'r Cymro ei fforddio a'r unig bensaerniaeth ynddo ef ydoedd hwnnw sy'n dilyn crefft- waith glân. Daeth y ffydd Gristnogol ag enghreifftiau o bensaer- niaeth dda a drwg gyda hi i Gymru. Ar y naill law saif ambell Abaty, Priordy neu Eglwys, ac ar y llaw arall gannoedd o gapeli. Nid i ni y perthyn y clod na'r bai am hyn fodd bynnag. Ar wahân i ambell addurn benthyciadau o batrymau poblogaidd Lloegr a'r Cyfandir a geir yn yr adeiladau hyn i gyd. Gyda'r Chwyldro Diwydiannol. daeth 'Jj.acrwch a chynnydd yn ddau air cyfystyr. Ni wahanwyd hwy hyd yn ddiweddar iawn. II Gwr sy'n meddwl â'i ddwylo" yw'r crefftwr da i'r awdur. Rhoddir darlun o le'r saer, y gof, a'r nyddwr yn y gymdeithas Gymreig. Dilynir hyn gyda phennod gyfan yn olrhain hanes y crochennydd ac un arall yn olrhain hanes yr argraffydd. Ceir hanes crochendy Abertawe­Y Cambrian-a chrochendy enwog Nantgarw. Ynddo hefyd ceir hanes argraffdai'r Hafod, Greg- ynog, ac yn ein hoes ni Gwasg y Gaseg a gychwynwyd gan John Petts a Brenda Chamberlain. Yr arlunydd yw pwnc pum pennod olaf y llyfr. Nid yw'r defnydd o ddarlun fel atgof am le arbennig yn beth newydd. Heddiw defnyddiwn gamera gynt gwneid y gwaith gan yr arlun-