Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRAMA. Llangefni a'r Ddrama. Profiad amheuthum i mi yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol oedd mynd i'r Theatr Fach i weld perfformio Merch yw Medwsa. Saif ar ei ben ei hun ymhlith digwyddiadau am- rywiol yr wyl. Bu'r Theatr ar agor ers tros ddwy flynedd cyn hyn, er y trydydd o Fai, 1955, a llwyfanwyd dramau yn rheolaidd ynddi yn y cyfamser. Ond perfformiadau; preifat i aelodau Cymdeithas Ddrama Llangefni fu'r rheini. Fis Awst eleni yr agorwyd drysau'r Theatr am y tro cyntaf i ymwelwyr. A phe na byddai am ddim arall, bu'n werth dod a'r Eisteddfod i Langefni er mwyn rhoi cyfle i Gymru gyfan i wybod am y Theatr Fach. Yr oedd teimlo awyrgylch y Theatr ynddo'i hun yn brofiad cynhyrfus. Cerdded i mewn i'r cyntedd gyda'i ddarluniau o berfformiadau a fu, cael rhaglen ddeniadol gwerth talu amdani, ac yna symud ymlaen i'r auditorium gyda'i seddau cyfforddus llonydd a'i llenni porffor yn gorchuddio'r llwyfan. Ac wedyn yn yr egwyl rhoi tro allan i fwynhau sgwrs a phaned o de. Allanolion y mae'n wir, ond rhyngddynt fe greuent yn y Theatr Fach yr awyrgylch anghyffredin hwnnw a berthyn yn arbennig i'r theatr. A'r hyn a barai gyffro yn Llangefni oedd fod yr awyrgylch yno yn drwyadl Gymreig. Yr oedd dyn yn syth yn y cywair iawn i fwynhau drama, cywair amhosibl ei gael mewn neuadd dref neu festri capel. Yn ei hallanolion yr oedd y Theatr Fach yn rhoi i'r ddrama y parch a haedda. Y parch hwn tuag at ddrama a eglura hefyd lwyddiant y perfformiad a gyflwynwyd-y perfformiad gorau a welais i yn Gymraeg. Ni fynnwn i am funud fychanu gronyn ar gynhyrchu dawnus F. G. Fisher nac ychwaith ar y portread argyhoeddiadol a roes Ceinwen Jones o gymeriad ingol-hiraethus Sara, ond prin bod eu cyfraniad hwy, er rhagored ydoedd, yn esbonio'n llawn ragoriaeth Merch yw Medwsa ar y dramau eraill a lwyfanwyd yn ystod yr wyl. I egluro hynny y mae'n rhaid ystyried y Theatr Fach a'r hyn yr amcenir ei wneud ynddi. Canolfan i Gymdeithas Ddrama yw'r Theatr. Er mwyn y Gymdeithas y mae'n bod er mwyn y cynhyrchwyr, yr actorion a'r crefftwyr sy'n aelodau ohoni. Meithrin a pherffeithio eu doniau hwy yw y nôd yn hytrach na díddanu cynulleidfa. O ganlyniad y mae gan gynhyrchydd at ei alwad yn y Theatr Fach gwmni o actorion gweddol sefydlog sy'n barod i ymarfer gyda'i gilydd am amser hir. A dyna gyfrinach y graen proffesiynnol a oedd i'r actio yn Merch yw Medwsa. Yr oedd ôl disgyblaeth drylwyr y tu ôl iddo. Oherwydd ofer ac amhosibl yw paratoi