Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Theatr a dramau Saesneg W. B. Yeats a J. M. Synge. Ond y mae'n ddiddorol cofio mai un o obeithion llai adnabyddus yr adfywiad hwnnw oedd sefydlu drama Wyddelig fJfw. Wrth drafod y delfryd hwn yn ei gylchgrawn drama, Samhain, dywed- odd Yeats: Prin y llwyddwn i gyflawni y cyfan a ddymunem oni cheir llawer rhagor o gymdeithasau bychain i fod yn ganolfanau i gelfyddyd drama a'r celfyddydau perth- nasol eraill." Hanner canrif ar ei ôl, ac ychydig wythnosau cyn agor y Theatr Fach wrth sôn am gyflwr y ddrama yng Nghymru dywedodd Mr. Saunders Lewis beth tebyg: Fe geir drama amhroffesyddol o fo'n werth ei meithrin pan gaffer, drwy hap neu wyrth, gwmni bychan o bobl mewn un lle, ac un yn eu plith, boed wr neu ferch, yn berson o awdurdod a thân yn ei galon a golau yn ei ben, a fyn actio gyda'i gilydd, a'i wneud megis petai'n waith cyflog. Gwneud hynny'n gyson drwy'r flwyddyn, heb ond ychydig wyliau, ac ymgysegru i'r peth fel artistiaid. Rhaid iddynt hwythau wrth theatr fechan ac ynddi weithdai, ac yno rhaid cyflwyno dramau'n rheolaidd ar hyd y flwyddyn Yn Llangefni cyflawnwyd argymhelliad y ddau hyn. Caed yno yn F. G. Fisher y person o awdurdod a ddarluniodd Mr. Saunders Lewis a sefydlwyd cwmni drama gwerth ei feithrin. Yng Nghymru, gan nad oes obaith am theatr broffesiynnol Gymraeg, y mae angen rhagor o ganolfanau fel y Theatr Fach. Oherwydd hwy, er gwaethaf a ddywedodd Ffeste y tro o'r blaen, yw gwir obaith y ddrama Gymraeg. BEDWYR L. JONES. Codwyd y dyfyniad gan Yeats o Samhain, Rhagfyr, 1904, a'r dyfyniud gan Saunders Lewis o'r Empire News, Chwefror 6ed, 1955.