Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDORIAETH Yr Hwrdd-du — Ian Parrott. Pwy, o wrando ar y gerddoriaeth yn unig, a fentrai honni bod simffoniau Beethoven a Brahms yn mynegi rhywbeth sy'n nod- weddiadol Almaenig, neu fod chweched simffoni Vaughan- Williams yn drwyadl Seisnig ? Ac eto nid yw'n dilyn oherwydd hyn mai diystyr unrhyw sôn am genedlaetholdeb' mewn cerdd- oriaeth. Bu cenedlaetholdeb yn sylfaen ac yn ysbrydiaeth i lawer campwaith cerddorol, yn enwedig ym myd yr opera. Cyd- nabyddir mai'r hyn a roes fod i opera genedlaethol yn yr Almaen ac yn Tsiecoslofacia oedd y defnydd a wnaeth Weber a Smetana o felodiau syml tebyg i ganeuon gwerin. Ymddengys bod cenedlaetholdeb yn cael ei amlygu mewn cerddoriaeth ar ddwy wahanol lefel. Yn anochel dylanwada ei gysylltiadau cenedlaethol-traddodiad a thueddiadau diwylliadol ei genedl, tymheredd ei gydwladwyr a hyd yn oed ei amgylchedd naturiol-i ryw fesur ar bob cyfansoddwr. A rhai cyfansoddwyr ymhellach. Dewisiant hwy ddefnyddio canu gwerin eu gwlad yn sylfaen i'w gwaith. Dyna a wnaeth Ian Parrott yn ei opera werin Gymraeg. Yr Hwrdd Du. Trwy wneud hynny llwyddodd i ddatrys un o bennaf problemau y cyfansoddwr cyfoes, sef sut i daro ar dradd- odiad opera y gall ef weithio ynddo ac ar yr un pryd gadw nodweddion cenedlaethol ei gerddoriaaeth. Mae'n wir i Vaughan- Williams yn Hugh the Drover ac Arwel Hughes yn Menna ym geisio at rywbeth tebyg o'i flaen. Ond prin yr ystyrir bod y naill na'r llall o'u hoperau hwy yn gwbl llwyddiannus. Llwyddodd Parrott i gyfanscddi opera a all fod ond iddi gael y cyfle yn gyfraniad pwysig i draddodiad cerddorol Cymru. Daeth y syniad o gyfansoddi'r opera i Parrott, yn ôl a ddywed ef ei hun, wrth iddo gydweithio â Syr Idris Bell ar raglen radio Saesneg, 'Cerdd Olaf y Tywysog Llywelyn,' rhaglen yr oedd ef yn gyfrifol am ysgrifennu'r gerddoriaeth iddi. Cytunodd ef a Bell y pryd hynny i fynd ati i gyfansoddi opera gyfan. Cawsant stori'r libreto yn hanes Syr Herbert Lloyd, sgweier Peterwell yn y ddeunawfed ganrif. Yna, yn nes ymlaen, cawsant gan T. H. Parry-Williams ymgymeryd â'i throsi i'r Gymraeg. Cnewyllyn y chwarae yw'r stori am ollwng hwrdd du Syr Herbert i lawr simnai tyddyn Sion Phylip. Cyhuddir y truan hwnnw gan Syr Herbert o'i ladrata, ac fe'i crogir, a'r cyfan oher- wydd chwennych o'r sgweier ei dir a'i eiddo. Ynghwrs y chwarae â Syr Herbert i Lundain. Yno afrada ei gyfoeth ar hapchwarae ac oferedd nes ei fod tros ei ben a'i glustiau mewn dyled. Poen- ydir ef gan euogrwydd cydwybod, ac yn y diwedd, wedi ei adael gan bawb hyd yn oed ei stiward, y mae'n lladd ei hun.