Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MANION. Nofel anghyffredin a newydd yn Gymraeg yw nofel ddiweddar Kate Bosse Griffiths, Mae'r Galon Wrth y Llyw. Pan anfonwyd hi i gystadleuaeth y nofel yn Ystradgynlais, 1954 cyfran o'r wobr a gafodd. Gwelai'r beirniaid bosibiliadau gwaith pwysig ynddi ond fe'u poenid gan wendidau mewn crefftwaith a Ithechneg. Rhoesant iddi feirniadaeth gyfrifol a gwerthfawr ac anogasant ei hawdur i'w hailysgrifennu. Dyma enghraifft ddelfrydol o beth ddylai beirniadaeth eisteddfod fod sef cyngor ac ysbrydiaeth. Dengys gyfle a chyfrifoldeb yr Eisteddfod a'i beirniaid. Llenor ifanc a chanddo nofel ar y gweill yw John Elwyn Williams, Caernarfon. Ni chyhoeddwyd llyfr ganddo ef eto, ond fe gofir iddo gipio'r wobr ym Mhwllheli gyda'r nofel, Blynydd- oedd y Locust.' Nofel gyfoes realistig oedd hon, 'y fwyaf ffasiwn newydd a ddarllenais yn Gymraeg,' meddai'r Dr. Kate Roberts. Dylai ei nofel newydd, pan ddaw, fod yn gyfraniad diddorol i'n llenyddiaeth. Nofelydd arall na welsom ei gwaith hyd yn hyn yw Mary Ellis (née Headley). Deallwn iddi hi ysgrifennu nofel hir. Dieithr yw nofel hir yn Gymraeg. Yn Saesneg ymddengys dwsinau lawer ohonynt bob blwyddyn ac fe'u gwerthir am ddeunaw swllt neu ragor y copi. Ond prin yr ymgymerai yr un cyhoeddwr Cymraeg â dwyn allan nofel a gostiai fawr fwy na chweugain. O ganlyniad byr yw ein nofelau bron yn ddieithriad a golyga hynny gyfyngu yn anochel ar ddull a dawn ein llenorion. Ddwywaith yn ystod yr wythnosau diwethaf cawsom y pleser o glywed Sian Phillips yn cymryd y rhan flaenaf mewn perfform- iadau radio o ddramau Cymraeg-fe1 Luned yn Gwaed yr Uchelwyr,' Saunders Lewis ac fel Iocasta yng nghyfieithiad Euros Bowen o Oidipos' Sophocles. Gallwn ymfalchio yng ngallu yr actores ifanc hon, a llongyfarchwn hi yn galonog ar ei llwydd- iant yn Llundain a Norwy. Ychydig Suliau'n ôl yn yr Observer ysgrifennodd Kenneth Tynan amdani, intramural reports speak ecstatically of Sian Phillips, the R.A.D.A. cham- pion.' Ymfalchiwn hefyd yn ei pharodrwydd i actio yn Gymraeg. Ond os y daw i'w rhan y llwyddiant a ddarogennir iddi ar lwyf- annau Llundain, bydd yn anodd iddi barhau i'n diddori ni yng Nghymru. Dyna drasiedi pethau.î Lundain yr â ein hactorion a'n cantorion gorau, er iddynt efallai ddymuno gwasanaethu eu cenedl eu hunain gartref pe byddai'n bosibl. Mae Cymru yn barod iawn i arddel ei henwogion. Nid ydyw mor barod i'w cynnal a'u cynorthwyo. A.P.