Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau. Wrth gyflwyno trydydd rhifyn Yr Arloeswr i'w ddarllen- wyr, manteisiwn ar ein cyfle i rybuddio'r neb a chwilio ynddo am adlais o wrthryfel poblogaidd Colin Wilson a'i griw ei fod ar drwydd seithug. Ni fwriadwn, fel y dywedasom yn ein rhifyn cyntaf, sefydlu nac ysgol' na chlic llenyddol o unrhyw fath. Wrth gwrs, y mae gennym ni, ei ddau olygydd, ein syniadau ein hunain am lenyddiaeth, ac er mwyn cywiro cam- syniadau fe geisiwn eu nodi isod. Y syniadau hyn, yn naturiol, a adlewyrchir yn ein sylwadau golygyddol, ond ni fynnwn i holl gynnwys y cylchgrawn gydymffurfio â hwy. Croesawn yn hyti'ach waith creadigol ac ymdriniaethau beirniadol o bob agwedd a safbwynt. Credwn fod hynny o amrywiaeth yn hanfodol i iechyd a gwerth y cylchgrawn. I ni, unigolyn a chanddo ei weledigaeth a'i syniadau arbennig ei hun yw'r artist-gweledigaeth a syniadau na ellir eu cymhwyso yn eu crynswth at bwrpas yr un artist arall. Profiad yr artist unigol yw hanfod celfyddyd, a chyfrifoldeb pob artist yw mynegi ei brofiad yn llwyr ac yn ddiffuant ac mor gelfydd byth ag y gall. Nid yw cyflawni hyn mor hawdd ag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Temtir yr artist bob amser i droedio'r llwybr hawdd a mynegi profiadau a theimladau ail-law mewn ffordd ail-law, heb ymgodymu o ddifrif â'i brofiadau a'i deimladau ef ei hun ac heb ymdrechu ychwaith i ddarganfod y dull mwyaf addas o'u mynegi. A cheir rhai beirniaid anghyfrifol sy'n barod i gefnogi ymateb anonest o'r fath a'i gyfiawnhau, gan ddadlau bod yn rhaid i'r artist fynegi ei hun yn syml ac yn ddealladwy. Wrth gwrs, fe ddylai ymdrechu bob amser i fod yn ddealladwy. Ond ni olyga hynny fod ganddo hawl i osgoi dyfnder a chymhlethdod profiad er mwyn creu celfyddyd boblogaidd, hawdd ei deall. Ni raid i gelfyddyd fod yn anodd nac yn gymhleth, ond fe all fod, a dyletswydd beirniaid a chynulleidfa yw wynebu'r posibil- rwydd yn hytrach na dianc rhagddo a bodloni ar gofleidio ystrydeb a ffraetheb. Gwell yw aros yn fud nag ail-adrodd ystrydeb. Clywir dadlau gan rai nad oes a wnelo'r celfyddydau fawr â syniadau'r artist am fywyd; bod celfyddyd yn rhywbeth ar wahân i helbulon bywyd bob-dydd. Ni chredwn ni fod grym yn y ddadl hon. Dadlennir personoliaeth gyfan yr artist yn ei gynnyrch creadigol, ac oherwydd hynny y mae ei syniadau a'i ragfarnau, yn ogystal â'i deimladau a'i nwydau, o reidrwydd yn rhan annatod o'i waith. Pan fo'r artist yn fwriadol yn ceisio ysgaru ei gelfyddyd oddi wrth fywyd a'i broblemau, y mae