Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hynny yn gwanhau ei waith; Y mae yn ei lesteirio rhag ymateb yn gyflawn i'w brofiad. Dyletswydd yr artist yw glynu'n dyn wrth ei brofiad ei hun o fywyd a'i fynegi, heb hidio am ymateb ei gynulleidfa. Sylwa ar fywyd o'i gwmpas, ac o'r hyn a wêl ymdrecha i greu rhywbeth ystyrlawn a chelfydd. Mynegi hyn yn onest yw ei gyfraniad pwysig i gymdeithas. Y mae'n bwys- icach na'i ddawn i ddiddori, hyd yn oed. Yn ein tyb ni, dylai celfyddyd dyfu'n naturiol o'i hamgylch- fyd. Dyìai hefyd gyfrannu i'r 'amgylchfyd hwnnw. Wrth groniclo ei ymateb sensitif ef i fywyd y mae'r artist unigol yn cyfleu yn uniongyrchol un agwedd ar brofiad mewn lle arbennig ar adeg arbennig. Yn anuniongyrchol y mae'n cyfoethogi ein hadnabyddiaeth o fywyd ym mhobman, bob amser. Yr un amod y mae'n rhaid iddo gadw ato yw bod o ddifrif gyda'i waith a rhoi ei orau ynddo gan arddel ei gyfrifoldeb. Bu rhai artistiaid ar hyd y canrifoedd a gredai mai swydd celfyddyd oedd ymgyrraedd at y gwirioneddau tragwyddol, gan anwyby/ddu, i raddau helaeth, y mân betheuach jnaterol o'u cwmpas. Ond caed artistiaid eraill a goleddai agwedd gwbl wahanol. Mynnent hwy y dylai celfyddyd adlewyrchu'r cyfnodau a'r amgylchiadau arbennig a'i creodd. Dyna'r agwedd a goledd- wyd gan Chaucer, Milton, Wordsworth a Dickens yn Lloegr, gan Moliére, Zola a Rimbaud yn Ffrainc, gan Whitman yn Amer- ica a chan Siôn Cent, Twm o'r Nant a Daniel Owen yng Nghymru. Yr agwedd olaf hon a goleddir gan amryw o artistiaid yng Nghymru heddiw, fel y dengys adran Llwyfan' y rhifyn hwn o'r Arloeswr. Cytunwn ninnau â'u safbwynt. Ar rai adegau fe all yr artist wylio pasiant bywyd o'r tu allan megis, heb ymboeni â'i broblemau. Ni chredwn ni ei bod yn gyfnod felly heddiw. Y mae gwerthoedd ysbrydol mewn perygl, y mae'r iaith Gymraeg mewn cyfyngder, ac y mae rheidrwydd ar bob un ohonom i benderfynu beth yw ein hymateb i'r sefyllfa a'i gyhoeddi yn ddi- dderbyn-wyneb. Dyletswydd celfyddyd yw cynnig rhywbeth adeiladol a phendant o blaid bywyd gwaraidd trwy fynegi mewn iaith gadarn a chlir brofiadau sy'n tarddu o fywyd, ac nid o lyfr. Wrth fynegi ein hagwedd bersonol ni fel hyn, ni feiddiwn ddibrisio yr un agwedd arall sy'n esgor ar gelfyddyd. Y mae'r weithred greadigol yn llawer rhy werthfawr i neb hawlio'r fath anoddefgarwch haearnaidd. Er mai un corff yw celfyddyd, cyf- rinach ei iechyd yw annibyniaeth ystyfnig ei aelodau. Gobeithiwn y bydd i'r Arloeswr adlewyrchu'r annibyniaeth hwnnw. Dyna fydd ei gyfiawnhad. Y mae gan ddyn awydd creu. Y mae ganddo hefyd awydd dangos ei greadigaethau i arall. Yn y pen draw nid oes angen dweud rhagor na hynny. Tra pery dyn, fe bery celfyddyd. Y broblem yw cadw'r naill a'r llall yn iach. Sulgwyn, 1958.