Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

unrhyw Iodd;­Iel petai rhyw barlys moesol wedi eu taro. You give us words, not deeds," meddai Gandhi wrth Tagore, bardd mwya'r India, ryw dro. Ac i nodi un enghraifft arall sy'n dynodi mor affwysol arwynebol (maddeuer yr wrtheb) yw ein gwlad- garwch, wedi'r cyfan, y mae "Ymryson y Beirdd," gorchest bennaf oll ein diwylliant gwerin, i mi, yn y gwaelod, ar adegau, yn rhywbeth trist mewn gwirionedd. Gynifer o'r campwyr glew hyn sydd yn gorffen â'u cyfrifoldeb i Gymru gyda llunio cwpled neu englyn neu gân fach bert iddi. Gwae nyni na fyddai'r gyffes Hon' yn wir amdanom 'Ac mi glywaf grafangau Cymru'n dirdynnu fy mron. Duw a'm gwrando, ni allaf ddianc rhag hon.' ALUN LLEWELYN-WILLIAMS. Annwyl Olygyddion, Diolch i chwi am y gwahoddiad i ateb y ddau g\cstiwn dyrys a ofynnwch ar ran Yr Arloeswr. Mi geisiais roi fy ateb i'r cwest- iynnau hyn, neu rai tebyg iawn iddynt, mcwn ysgrif yn Y Traeth- odydd ryw dair blynedd yn ôl. 'Dydwyf i ddim yn awyddus iawn i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn yr ysgrif honno ( Diwedd y Byd" oedd ei theitl). Yn un peth, cymerai hynny ormod o'ch gofod, a phe bawn yn cynnig talfyriad o'r ysgrif gallai hynny fod yn beryglus o gamarwciniol. Yn fyr iawn, dyma fy safbwynt i. Os ydych yn golygu wrth yr argyfwng byd presennol' fygythiad enbyd y bom hydrogen, a'r rhwyg alaethus rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin, ni allaf gredu fod y pethau hyn wedi gwneud dim mwy na gosod gwedd newydd ar argyfwng oesol y ddynoliaeth. Er cymaint ei arswyd arnom, nid yw'r gallu dinistriol newydd wedi newid dim sylfaenol ar gyflwr dyn fel bod meidrol sy'n adnabod drwg a da. Y mae'r argyfwng a ddisgrifir yn ail bennod Llyfr Genesis yn gyflwr oesol, ac felly cwestiwn diystyr i mi yw eich cwestiwn cyntaf, oblegid, os oes swydd o gwbl i gelfyddyd yn y cyflwr hwn,bydd honno wrth raid yn aros yr un ymhob oes. Peth llawer iawn mwy anodd yw diffinio'r swydd, er mwyn ceisio penderfynu beth yw dylctswydd' llenor neu fardd. Gall y swydd amrywio efallai, o fewn rhyw derfynau, ac yn ôl fel y bydd yr amodau cymdeithasol yn amrywio, ond yn ei hanfod credaf mai unig swydd llenor yw dwyn tystiolaeth i'r grym creadigol rhyfedd ac ofnadwy sy'n cynnal ysbryd dyn. Y mae'r grym hwn yn ddir- gelwch, ond os oes ystyr o gwbl i'r enw 'llenor' rhaid iddo ddiffinio cynneddf sy'n gyffrcdin i lenorion mawr pob adran o'r ddynol- iaeth ymhob oes, boed eu crefydd a'u hiaith a'u cenedl a'u hil y