Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi. WRTH WYLIO GENETH YN ADDOLI MEWN EGLWYS BABYDDOL. Geneth yng ngolau'r gannwyll a'i phen yn iscl, fe'i gwelwn Yn llesol droi ei llaswyr hyd fysedd defosiwn Yn dilyn â dwyster dwylo cred y paderau crwn. Yno y plygai'n unig, oriau'r paderau'n dirwyn Allan o'r tywyllwch wrth yr allor a'r Forwyn Yn oleuni'r gleiniau, yn llcwych gwyll uwch y gwyn. Aros, a chyfrif oriau Ei Basiwn yng ngweddi'r bysedd, A naddu'r llonyddwch â min y sanctaidd amynedd Hyn oedd ei hymdrech hi ar funudau hir ofnadwy hedd. Hi oedd anadl pob anadl yno, poen pob penyd Un oeddem ym mhob dioddef, ym mhob nef hefyd. Dyddiau cur ydoedd cariad, baich oedd llawenydd byd. O gywilydd y galon, oedwn yn y gwacter didwyll, — Yn « uog yn ogof ein hofn gwae fi fy nhwyll Y nos oedd amdanom ni, a gwan oedd goleuni'r gannwyll. JAMES NICHOLAS.